Rydym wedi bod yn gweithio ers 1998 i helpu cymunedau i frwydro yn erbyn newid hinsawdd ac i fod yn fwy gwydn yn wyneb yr argyfwng hinsawdd.
Dewiswch y gwahanol dabiau isod i archwilio’r gwahanol agweddau ar ein gwaith.
Mae Egni Co-op yn datblygu ynni solar ar doeon yng Nghymru ac mae ganddi gapasiti o bron 5MWp ar dros 90 o safleoedd, gan gynnwys ysgolion, adeiladau cymunedol a busnesau. Y ni yw’r gydweithfa solar ar doeon fwyaf yn y DU. Mae’r holl arian sydd dros ben yn mynd i addysg newid hinsawdd mewn ysgolion.
Awel Co-op yw ein fferm wynt gymunedol dau dyrbin 4.7 MWp ar Fynydd y Gwrhyd, 20 milltir i’r gogledd o Abertawe.
Mae’n cynhyrchu digon o bŵer ar gyfer 2500 o gartrefi. Mae’r holl arian sydd dros ben yn mynd tuag at ddatblygu mwy o brosiectau carbon isel ac addysg newid hinsawdd.
Bydd yn agor yn yr Hydref 2023. Cliciwch yma i ddarganfod sut rydym yn dod ymlaen!
Trwy ein rhaglen addysg, Rydym yn Rhyfelwyr Ynni, rydym yn gweithio gyda’n hysgolion Egni i gynnal gweithdai creadigol a hwyliog i helpu disgyblion ac athrawon i weithredu ar newid hinsawdd. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag elusen arall, Energy Sparks, sydd â phlatfform data ardderchog ar gyfer y defnydd o drydan, nwy a solar mewn ysgolion fel y gall plant weld a mesur pa effaith y mae eu gweithgareddau arbed ynni yn ei chael.
Taith yw ein Cynllun Cludiant Trydan Cymunedol.
Mae gennym dri cherbyd trydan a phum beic i gefnogi unigolion a grwpiau bregus gyda chludiant glân. Rydym hefyd yn mynd i ddatblygu clwb ceir trydan cymunedol.