Ddydd Mercher 15 Gorffennaf, ymwelodd Nigel Topping CMG, Cadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU, â fferm wynt gymunedol Awel Aman Tawe a’i bencadlys a chanolfan gymunedol carbon isel newydd, Hwb y Gors, yn ystod ymweliad â de Cymru.
Dywedodd Dan McCallum, Prif Weithredwr AAT: “Roeddem yn falch iawn o allu dangos y tyrbinau gwynt ar waith i Nigel. Roedd awel gref ar y diwrnod yn ogystal â digon o heulwen gref. Roeddem yn gallu egluro ein bod ar fin dechrau adeiladu arae solar a batri 5 MWh ar yr un safle er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyflenwad o ynni adnewyddadwy i’r grid drwy gysylltiad ein fferm wynt. Bydd yr hyblygrwydd hwn yn cynyddu ein hincwm, a fydd yn ei dro yn ein galluogi i gefnogi cynaliadwyedd gwasanaethau, cymorth a chyfleoedd i’n cymuned. Buom hefyd yn trafod y materion sy’n atal prosiectau tebyg rhag cael eu cyflwyno ar draws y wlad.”
Cafodd Nigel a’i gydweithwyr daith o amgylch Hwb y Gors, enghraifft fyw o sut y gall cymuned ailadeiladu cysylltiadau, hyder a gwydnwch pan fydd yn berchen ar ei hadnoddau lleol ei hun.
Esboniodd Emily Hinshelwood, Cyfarwyddwr Creadigol AAT: “Dros y deg mis cyntaf ers agor, mae Hwb y Gors wedi datblygu’n ganolbwynt cymunedol llewyrchus yng nghanol Dyffryn Aman Uchaf. Mae’n prysur ddod yn ofod cymunedol prysur, croesawgar a dibynadwy lle mae pobl yn dod ynghyd i ddysgu, creu, gwirfoddoli, gwella eu llesiant a chysylltu ag eraill.
“Roedd yr hen ysgol gynradd yn adeilad poblogaidd iawn yng nghanol y pentref. Rhoddwyd blaenoriaeth i ymgynghori ac ymgysylltu ag ystod eang o unigolion a sefydliadau wrth lunio ein cynlluniau i ailddatblygu’r ysgol. Bellach, ble bynnag y byddwch yn edrych yma, mae atgof o’r bobl a’r straeon sydd wedi’u gwau i wead ein hadeilad a’n cymuned. Yr unig ffordd y gallem wneud hyn i gyd oedd drwy fuddsoddi elw ein fferm wynt yn ôl yn ein hardal leol.”
Yn ystod y daith o amgylch Hwb y Gors, dywedodd Nigel Topping: “Rwy’n ymweld â nifer o brosiectau a sefydliadau diddorol yn ystod fy amser yng Nghymru. Fel rhywun sydd â chefndir mewn gweithgynhyrchu, roeddwn am sicrhau fy mod yn ymweld â safle sydd mewn gwirionedd yn cynhyrchu ynni ac yn gweld drosof fy hun sut y gall perchnogaeth gymunedol sicrhau manteision enfawr i bobl leol yn ogystal â chael effaith sylweddol ar ein hymrwymiad i fynd i’r afael â newid hinsawdd.”



