Amdanom ni

Awel Aman Tawe

Mae gan Awel Aman Tawe (AAT) dros 20 mlynedd o brofiad o ymchwilio, datblygu a chyflwyno prosiectau sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae ein swyddfeydd yng Nghwm Aman yn Ne Cymru, ac rydym yn credu mewn llywio newid i gyfeiriad economi wyrddach, decach a galluogi cymunedau i fod yn gryfach. Gan weithio trwy Gwmnïau Cydweithredol Awel ac Egni, mae staff AAT wedi datblygu fferm wynt gymunedol (Awel) a phortffolio o bron 100 o safleoedd solar ar doeon (Egni) sydd nid yn unig yn helpu i gynhyrchu trydan rhatach, gwyrddach, ond sydd hefyd yn helpu i ariannu ein rhaglenni addysg a’r celfyddydau. Rydym yn rhedeg cynllun cludiant cymunedol CT a bydd ein eco-ganolfan newydd Hwb y Gors yn hwb cynaliadwy ar gyfer creawdwyr, addysgwyr, entrepreneuriaid a’r gymuned leol. Mae ansawdd ein gwaith wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol ac yn rhyngwladol drwy nifer gynyddol o wobrau mawr eu bri.

Cydweithfeydd Awel ac Egni

Rydym wedi sefydlu dau o’r cwmnïau ynni adnewyddadwy cydweithredol mwyaf yn y DU – Awel (ein cydweithfa ynni gwynt) ac Egni (ein cydweithfa solar ar doeon). Rydym wedi codi dros £8 miliwn mewn cyfranddaliadau cymunedol i adeiladu…

Hwb y Gors

Hwb y Gors yw ein hyb cymunedol cydweithio newydd gyda chyfleusterau ar gyfer y celfyddydau, addysg a menter. Byddwn yn agor yn 2023. Felly gwyliwch y gofod hwn!

Addysg

Mae ein rhaglen addysg ‘Rydym yn Ymgyrchwyr Ynni’ yn annog disgyblion oed cynradd ac uwchradd i ymgysylltu â newid hinsawdd a lleihau ynni. Trwy gyfres o weithdai a phrofiadau dwyieithog caiff disgyblion eu grymuso i:

  • gymryd camau i leihau’r defnydd o ynni yn yr ysgol;
  • i fod yn feddylwyr uchelgeisiol a moesegol sy’n malio am Gymru a’r byd
  • ac i fod yn fentrus, yn greadigol ac yn hyderus wrth ledaenu eu neges.

Taith – ein cynllun cludiant cymunedol

Mae trafnidiaeth yn broblem fawr yn ein hardal, gyda gwasanaeth bysiau cyfyngedig iawn. Rydym yn rhedeg cynllun cludiant cymunedol trydan i helpu pobl i ddatrys y broblem hon, ac rydym yn bwriadu datblygu clwb ceir. Rydym yn canolbwyntio ein cymorth ar grwpiau bregus fel pobl ag anawsterau dysgu, pobl anabl, gofalwyr a’r henoed. Mae gennym gar a cherbyd trydan 7 sedd gyda mynediad i’r anabl. Bydd gennym 4 pwynt gwefru yn Hwb y Gors. Mae gennym hefyd fflyd o feiciau trydan. Rydym yn gweithio gyda chynlluniau cludiant cymunedol eraill yn Ne Cymru.

Rhai o’n Gwobrau Diweddar

Gwobrau Ynni Cymunedol Cymru a Lloegr, 2022: Teilyngwr – Wrthi’n Tyfu

Gwobrau Solar a Storio’r DU, 2022: Enillydd Grŵp Cymunedol Gorau

Cymdeithas Fasnach Prydain, 2021: Enillydd Rhanbarthol Arbed y Blaned

Gwobrau Amgylchedd Cymru, 2021: Enillydd Grŵp Cymunedol Gorau

Gwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU, 2019: Sefydliad Amgycheddol y Flwyddyn

Gwobrau Academi Cynaliadwyedd Cymru, 2019: EnillyddProsiect Ynni Adnewyddadwy Gorau

Gwobrau Busnes Castell-nedd Port Talbot, 2018: Enillydd – Ynni Glân 

Gwobrau Egin Fusnesau Rhanbarth Ddinesig Bae Abertawe, 2018: Enillydd

Gwobrau Egin Fusnesau Mentrau Cymdeithasol Cymru, 2018: Enillydd

Gwobrau Ynni Gwyrdd Regen, 2018: Enillydd– Prosiect Ynni Cymunedol Gorau

Gwobrau Ynni Gwyrdd Cymru, 2016: Enillydd – Ymgysylltu â’r Gymuned

Gwobrau Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, 2016: Enillydd – Gorau am Godi Arian

Sefydliad Plunkett, 2016: Cydweithfa Orau Cymru

Gwobrau Ynni Cymunedol Cymru a Lloegr, 2015: Prosiect Gorau.

Cwrdd â’r Tîm

Dan McCallum

Cyfarwyddwr

Felicity Crump

Dirprwy Reolwr

Emily Hinshelwood

Cyfarwyddwr Creadigol

Carl Richards

Swyddog Cyllid

Lisa Jones

Swyddog Cyllid

Jen James

Swyddog Addysg

Louise Griffiths

Swyddog Ymgysylltu Cymunedol

Mike Switzer

Cyfarwyddwr Datblygu Solar

Rosie Gillam

Swyddog Datblygu Egni a Chyfarwyddwr Egni

Ellie Critchley

Swyddog Datblygu Solar

Sachá Petrie

Swyddog Cludiant Cymunedol

Christine Burden

Swyddog Cludiant Cymunedol / Gyrrwr

Michael Lukes

Gyrrwr Cludiant Cymunedol

Bethan Edwards

Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr

Alun Lloyd

Trysorydd yr Ymddiriedolwyr

Dr Catrin Maby OBE

Ymddiriedolwr

Caroline McGurgan

Ymddiriedolwr

Katie Powis

Ymddiriedolwr

Helen Roach

Ymddiriedolwr

Brian Jones

Ymddiriedolwr

Martin Jervis

Ymddiriedolwr

Chris Johnes

Ymddiriedolwr

David Stonehouse

Ymddiriedolwr

Rhannu’r Dudalen