Mae’r elusen ynni cymunedol arloesol, Awel Aman Tawe, wedi penodi dau uwch-aelod staff wrth iddi gychwyn ar gyfnod o ehangu allweddol. Mae Catrin Evans wedi derbyn y swydd Cyfarwyddwr Ariannol newydd, ac Amanda Fitzwilliams yw Rheolwr Cyfathrebu cyntaf y sefydliad. Ariennir y ddwy swydd gan Sefydliad Esmee Fairbairn.
Mae Catrinyn weithiwr proffesiynol tra phrofiadol ym myd cyllid, gyda thros 35 mlynedd o brofiad mewn arweinyddiaeth yn y sectorau cyhoeddus, elusennol a masnachol. Mae’n frwd dros weithio gyda sefydliadau i gyflawni cynaliadwyedd tymor hir trwy arweinyddiaeth ariannol gadarn, llywodraethu da a chydweithredu. Bydd yn rhannu ei phrofiad helaeth o lywio sefydliadau trwy amgylcheddau cymhleth ac esblygol, gan sicrhau gwydnwch ariannol ar y cyd â chefnogi twf cynaliadwy a newid sefydliadol.

Meddai Catrin: “Rwy’n llawn cynnwrf wrth gael ymuno â sefydliad sydd yn y rheng flaen ym myd ynni cymunedol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Mae uchelgais Awel Aman Tawe i sbarduno’r genedl tuag at sero net, ar y cyd â dod â buddion parhaol i gymunedau lleol, yn ysbrydoledig, ac rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu fy arweinyddiaeth ariannol a’m profiad strategol i gefnogi’r weledigaeth honno. Rwy’n siaradwr Cymraeg ac rwyf wrth fy modd yn chwarae rhan mewn creu newid cadarnhaol i bobl ledled Cymru.”

Mae Amanda wedi dilyn gyrfa hir yn y maes cyfathrebu i’r sector nid-er-elw. Dywedodd: “Rwyf ar ben fy nigon wrth ymuno ag Awel Aman Tawe ar y foment gyffrous hon pan fod perchnogaeth ynni ac ehangiad ynni adnewyddadwy lleol yn cyrraedd y tudalennau blaen. Rydw i wrth fy modd yn gwneud i bethau da ddigwydd ac adeiladu rhwydweithiau a chysylltiadau, ac rwy’n edrych ymlaen at rannu’r cyfoeth o newyddion cadarnhaol a’r amrywiaeth o fuddion i’r gymuned a gynhyrchir gan fodel arloesol AAT.”
Meddai Dan McCallum, Prif Weithredwr Awel Aman Tawe: “Rydym yn falch iawn o gael recriwtio unigolion mor ddisglair i’r swyddi allweddol hyn ar gyfnod mor bwysig i Awel Aman Tawe. Ar y cyd â’n hasedau ynni adnewyddadwy sefydledig, rydym yn datblygu seilwaith newydd, yn cynnwys fferm solar a phrosiect storfa batri – un o systemau “tribrid” cyntaf y DU. Rydym hefyd yn datblygu prosiectau solar a gwynt rhanberchnogaeth gyda datblygwyr masnachol ac yn ehangu ein portffolio o weithgareddau cymunedol, addysg a menter yn Hwb Y Gors – ein pencadlys a’n canolfan gymunedol carbon isel newydd.”
Mae Catrin Evans yn ymuno ag AAT o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro lle’r oedd yn Bennaeth Cyllid a Chodi Arian. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys Pennaeth Cyllid a Masnachol yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru a Phennaeth Cyllid yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen. Mae’n gyn-Gymrawd ICAEW a ymgymhwysodd gyda KPMG, ac yna treuliodd dros 20 mlynedd fel Cyfarwyddwr mewn cwmni cyfrifyddiaeth siartredig cyn symud i uwch rolau arweinyddiaeth yn y sectorau elusennol a chyhoeddus.
Mae gwaith Amanda (Cornish) Fitzwilliams wedi cwmpasu awdurdodau lleol, addysg uwch a sefydliadau elusennol, yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Coleg Cerdd a Drama Cymru, Theatr Dawns Gyfoes Llundain, Canolfan Gelfyddydau Warwig, Gŵyl Ymylol Caeredin, Gwyliau Cerdd a Llenyddiaeth Cheltenham, Wythnos Gelf Swydd Henffordd, Ymddiriedolaeth Sidney Nolan ynghyd â rolau gwirfoddol fel gwaith Cysylltiadau Cyhoeddus i’r ymgyrch Arbed Afon Gwy.