Mae gwaith adeiladu ar ein cynllun ‘tribrid’ newydd yn dechrau

Ar 21 Medi, dechreuom adeiladu Fferm Solar Gwrhyd (Haul y Gwrhyd CBC), sef fferm solar ar y llawr 2.6 MWp a batri 0.9 MW MPA/5MWh.

Ar ôl treulio llawer iawn o amser ar gynllunio, caniatadau, apwyntiadau ac ati, mae’n wych cael gweld ein traed a’r peiriannau ar y ddaear.

Mae’r fferm wynt bresennol wedi’i chysylltu â’r rhwydwaith dosbarthu lleol ac yn gallu allforio hyd at 4.7 MW o drydan ar unrhyw adeg. Oherwydd natur newidiol y gwynt, mae swm y trydan a gynhyrchir gan y fferm wynt yn amrywio ac felly roedd yna gyfnodau pan fod capasiti sbâr ar gael yn ein cysylltiad grid, yn enwedig yn yr haf.

Photo: Mike Harrison

Bydd Haul y Gwrhyd yn rhannu cysylltiad grid ein fferm wynt 2 dyrbin, gan ei droi’n brosiect ‘tribrid’ (tair technoleg) ac uchafu effeithlonrwydd ein cysylltiad grid a chynhyrchiant y safle. Ein un ni yw un o’r cynlluniau tribrid cyntaf yng Nghymru. Bydd yr holl ynni gormodol yn parhau i gefnogi ein prosiectau cymunedol fel Hwb Y Gors, ein tîm cyngor ynni a’n gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol.

Cawsom ymweliad amserol gan ysgol gynradd leol Ysgol y Bedol yn ddiweddar i weld y tyrbinau presennol ar waith a chael taith o gwmpas y safle, a gwnaethant amcangyfrifon arbenigol ar faint o baneli solar byddwn yn eu gosod ar y cae cyfagos.

Rydym wedi comisiynu ein gwneuthurwr ffilmiau Mike Harrison i ddogfennu’r broses adeiladu felly byddwn yn rhannu ffilmiau a diweddariadau ar y prosiect ar ein gwefan, yn y cyfryngau cymdeithasol ac mewn cylchlythyrau.

Hoffem gydnabod cefnogaeth ein cyllidwyr a’r holl gwmnïau/cynghorwyr isod sy’n helpu i ddatblygu’r prosiect.

Cyllidwyr

Cynllun Iawndal Gwirfoddol yDwydiant Ynni: Pontio Teg
Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru
Ynni Cymru
Triodos Bank
Llywodraeth Cymru
Adran Diogelwch Ynni a Sero Net
Ymestyn

Adeiladu

Winfield Energy UK Ltd Prif Gontractwr
OCU Hornbill Ltd Systemau trydanol FU
Wellshill Civils and Plant Ltd Peirianneg sifil
MetSolar Ltd Cyflenwr fframiau solar
StorTera Ltd Cyflenwr batri
PJC Forestry and Fencing Ffensio
Enroch Landscaping Ltd Tirlunio
Breakpoint Safety Ltd Iechyd a Diogelwch

Cynghorydd

Greencat Renewables Ymgynghorydd Technegol
Burges Salmon LLP Cyngor cyfreithiol
Dulas Cynllunio
Archaeology Wales Archeoleg
Amber Ecoleg
Wallingford Hydro Solutions Draenio Cynaliadwy
Quad Consult Ltd Peirianwyr Dylunio

Photo: Mike Harrison

Rhannu’r Dudalen