Awel Co-op

Mae Awel Co-op yn berchen ar ddau dyrbin gwynt 2.35MW Enercon ar Fynydd y Gwrhyd, 20 milltir i’r gogledd o Abertawe.

Darllenwch ein Awelog i ddarganfod sut adeiladwyd ein fferm wynt. Cafodd y tyrbinau eu comisiynu ar 25 Ionawr 2017. Maent yn cynhyrchu dros 12,000 MWh o ynni glân, carbon isel y flwyddyn – digon i gyflenwi dros 2,500 o gartrefi.

Ariannwyd y fferm wynt gan gyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m a benthyciad o £5.25m gan Fanc Triodos.

Cawsom dipyn o hwyl… dyma PaulThorburn, un o sêr rygbi Cymru, yn ail-greu ei Anghenfil o gamp drwy gicio pêl rygbi dros un o sylfeini ein tyrbinau. Ac Emily Hinshelwood, ein cyd-sylfaenydd, yn dychmygu’r arllwys concrit ar gyfer y tyrbin fel episod o Bake Off, yn cynnwys y fefusen hedegog!

Gwnaed ffilm syfrdanol i ddathlu cwblhau’r fferm wynt gan yr enillydd Bafta Cymru, y dyn camera Mike Harrison.

Mae gennym gytundeb cynnal a chadw 15 mlynedd gydag Enercon ac mae ganddynt staff sy’n byw mewn pentrefi lleol. Mae Enercon yn cael eu talu fesul pob MWh a gynhyrchir felly mae cymhelliad iddynt sicrhau bod y tyrbinau’n dal i droi! Mae ein staff yn rheoli’r safle ac yn cydlynu ar ddarllen y mesuryddion ac ymweld â’r safle – gallwn weld y tyrbinau o’n cartrefi felly rydyn ni’n gwybod os oes problem!
Rydym yn gobeithio gosod 2MW o solar ar y ddaear yn y dyfodol. Bydd hyn yn gwneud defnydd mwy effeithlon o’n cysylltiad grid gan fod y tyrbinau gwynt yn cynhyrchu llawer mwy yn y gaeaf tra bydd y solar yn helpu i ategu hyn yn yr haf.

Newyddion

icon-next
icon-prev