Rydyn ni’n recriwtio…pum swydd newydd gydag Awel Aman Tawe!

Mae’r gyntaf yn swydd Gweinyddwr newydd a fydd yn ein helpu i reoli ein holl systemau swyddfa a chefnogi’r symudiad i Hwb y Gors, ein canolfan celfyddydau, cymuned a menter sero net newydd yng Nghwmgors yng Nghwm Tawe Uchaf a fydd yn agor yng ngwanwyn 2024. Disgrifiad swydd llawn a manylion ymgeisio yma.

Mae gennym hefyd ddwy swydd ynni adnewyddadwy i helpu i ddatblygu mwy o ynni solar ar y to gydag Egni Co-op (ar hyn o bryd rydym yn paratoi i ddechrau gosod mewn 16 ysgol a 4 canolfan hamdden gyda Chyngor Sir Penfro); prosiect solar ar y ddaear wrth ymyl ein tyrbinau gwynt ar y Gwrhyd; mwy o dyrbinau gwynt; a llawer o brosiectau cyffrous eraill – mae manylion y swydd uwch yma a swydd y swyddog yma. Ariennir y swyddi hyn drwy Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, darllenwch y disgrifiad swydd a manyleb y person ac anfonwch eich cais (Llythyr Eglurhaol a CV) i croeso@awel.coop.

Mae gennym hefyd ddwy swydd Cynghorydd Ynni a fydd yn gweithio gyda deiliaid tai lleol yng Nghymoedd Aman Uchaf a Chwm Tawe ar welliannau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy domestig. Mae hyfforddiant llawn ar gael.

Rhannu’r Dudalen