Blwyddyn 5 : peirianwyr y dyfodol!

Cafodd yr ymweliad ddoe gan fyfyrwyr o Bontarddulais i’n chwaer gydweithfa, fferm wynt Awel, ei fendithio gan heulwen a gwynt. Roedd gan y 60 o fyfyrwyr Blwyddyn 5 ddiddordeb mawr mewn dysgu am Gydweithfeydd ac am ynni gwynt. Roeddent yn awyddus hefyd i weld mwy o bŵer solar gan Egni Co-op.
Roedd gan y myfyrwyr lefel uchel o ddealltwriaeth o newid hinsawdd a chynhyrchu trydan yn barod. Roeddent wir yn sychedu am wybodaeth! Fe wnaethom ateb 1,999 o gwestiynau yn amrywio o ‘pam mae wedi ei baentio’n llwyd?’ I ‘faint o fagnetau sydd mewn generadur?’…! Roedd yr ymweliad yn cynnwys taith y tu mewn i’r tyrbin gwynt i edrych ar fesuriadau cyflymder gwynt, cyflymder y blaenau a’r oriau rhedeg hyd yn hyn. Mae’r tyrbin wedi bod yn rhedeg am tua 18,000 o oriau hyd yn hyn, tua 4 gwaith oes dylunio car eisoes. Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â rhai o’r peirianwyr hyn yn y dyfodol unwaith eto!

Pontarddulais Y5 ar ymweliad fferm Awel Coop


Bl 5 Pontarddulais ar ymweliad i fferm Awel Coop

Rhannu’r Dudalen