Ymweliad â Safle’r Fferm Wynt, Lansiad Egni a dawns ysgubor Twmpath, 23 Gorffennaf:

Estynnwn wahoddiad i chi i’n digwyddiad ar ddydd Mawrth 23 Gorffennaf.  Mae croeso i bawb, nid dim ond aelodau presennol Awel ac Egni Coop. Ac mae am ddim!

Bydd yr Ymweliad â Safle’r Fferm Wynt rhwng 4pm a 6pm a bydd coets yn mynd â chi i’r fferm wynt o Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe. Gallwch ddod i’r Canolfan Gelfyddydau o 3pm ymlaen a chael paned o de, pice ar y maen a sgwrs.

Byddwn nôl yn y Ganolfan Gelfyddydau am 6pm ar gyfer Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol Egni ac Awel Coop. Gweler isod am ragor o wybodaeth.

Ac yna am 6.30pm, trefnir bwffe llysieuol/fegan llawn yn y Ganolfan Gelfyddydau (am ddim), bydd y bar ar agor, a byddwn yn mwynhau cerddoriaeth gan y grŵp anhygoel Fiddlebox.

Am 7pm, byddwn yn lansio Egni, ein cynnig cyfranddaliadau newydd ar gyfer solar ar doeon sydd â’r nod o osod hyd at 5MW ar draws Cymru erbyn Mawrth 2020. Rydym wedi codi £400k o’n targed o £750k yn barod. Mae mwy o wybodaeth a’n ffurflen fuddsoddi ar-lein ar gael yn www.egni.coop  Bydd un o’n Cyfarwyddwyr, Rosie Gillam, yn rhoi cyflwyniad a bydd y cyfarwyddwyr yno i ateb cwestiynau.

Ar gyfer y Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, dyma ddolennau i Adroddiad/Cyfrifon Drafft 2018 Egni a Chyfrifon ac Adroddiad Awel. Bydd ein Cyfrifwyr, Bevan and Buckland, wrth law i gyflwyno Cyfrifon Awel.

Am 7.30pm, byddwn yn cael Twmpath (dawns ysgubor Gymreig) gyda Fiddlebox i ddathlu lansiad Egni. Mae croeso i chi roi cynnig ar bob math ar ddawnsio a bydd y bar ar agor sy’n helpu bob amser!

I grynhoi:

3-4pm              Dewch i Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe

4pm                  Y goets yn gadael y Ganolfan Gelfyddydau am y fferm wynt

6 pm                 Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol Egni ac Awel

6.30pm           Bwyd

7pm                 Lansiad Egni

7.30pm          Twmpath

Gobeithio y byddwn yn eich gweld ar y 23ain.

Dan, Rosie, Carl, David, Suzanne, Mary Ann

Cyfarwyddwyr www.egni.coop & www.awel.coop

Rhannu’r Dudalen