Yr Hwb Gymunedol newydd bron yn barod

Mae Hwb y Gors, ein eco-ganolfan newydd hardd yng Nghwm Aman Uchaf bron â bod yn barod. Mae Hwb y Gors wedi ymgodi o’r gwaith adnewyddu ac ailwampio ar hen Ysgol Gynradd Cwm-gors, yr hoff adeilad a wasanaethodd genedlaethau o blant a theuluoedd lleol. Bydd yr Hwb yn cynnwys caffi, gweithdy crochenwaith, stiwdios artistiaid, gardd gymunedol, neuadd a man ymarfer, ystafelloedd addysg, a chynllun trafnidiaeth drydan gymunedol.

Meddai Emily Hinshelwood, Cyfarwyddwr Creadigol Awel Aman Tawe, sy’n arwain y prosiect “Ein nod yw agor yr adeilad ym mis Ionawr 2023. Mae wedi bod yn dasg anferth oherwydd y lefel uchel o bydredd sych – bu’n rhaid gwagio’r adeilad yn llwyr! Rydyn ni wedi ceisio cadw rhai o nodweddion yr adeilad, ond mae hyn wedi ein galluogi i ail-ddychmygu’r tu mewn wrth symud ymlaen. Roedd yn bleser cael croesawu Mrs Blank, y pennaeth blaenorol, a grŵp o gyn-athrawon a staff, i weld y gwaith. Rhannon nhw storïau am eu dyddiau yn yr ysgol, ac roedd yn dda gennym glywed eu bod yn hoffi’n gwaith, ein gweledigaeth ar gyfer y ganolfan, ac yn bwysicaf oll y ffaith fod yr adeilad yn mynd i aros wrth galon y gymuned, er mai ar ffurf wahanol”.

Parhaodd Emily “Rydyn ni wedi cydweithio gyda’r gwneuthurwr ffilmiau lleol, Mike Harrison, i ddogfennu’r gwaith adnewyddu – mae mor gyffrous gweld sut gall ysgol a adeiladwyd yn 1912 gael ei hailwampio gyda deunyddiau adeiladu cynaliadwy fel inswleiddiad waliau allanol corc, paneli solar a phwmp gwres o’r ddaear i leihau ei hôl troed carbon. Mae Mike wedi ennill dwy Bafta Cymru am ei waith felly mae’n ffilm hardd gyda Sarah Bowkett, cyn-ddisgybl yn yr ysgol sy’n dal i fyw gerllaw, yn trosleisio.”

Mae’r gwaith adnewyddu yn cael ei siapio hefyd gan bobl leol sy’n cydweithio i greu tecstilau, gwydr lliw a cherameg a gaiff eu gosod yn yr adeilad cyn iddo agor. Meddai Louise Griffiths, a helpodd i redeg Cymdeithas Rhieni Athrawon (PTA) yr ysgol ac sydd nawr yn Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned Awel Aman Tawe, “Rydyn ni newydd orffen darn o waith tecstilau bendigedig a fydd yn hongian ar y nenfwd yn y caffi. Arweiniwyd y gwaith gan yr artist tecstilau, Menna Buss a rhedwyd dros 20 o weithdai cymunedol gan Urdd Gwehyddion, Nyddwyr a Lliwyddion Tawe a fydd yn symud i Hwb y Gors. Cymerodd dros 150 o bobl ran yn y gweithdai – roeddem ar ben ein digon o weld sgiliau, egni ac ymroddiad y bobl leol a gyfrannodd”.

Cymerodd yr artist sain, Matthew Collier, ran yn y gweithdai hefyd ac mae wedi creu darn hardd o’r enw ‘Yma’ sy’n cwblhau’r tecstilau. Cawsom ddigwyddiad i ddathlu gorffen y darn tecstilau a sain ac i goffáu pen-blwydd agor yr ysgol 110 o flynyddoedd yn ôl yn 1912. Roedd cyfle i weld y gwaith tecstilau, mwynhau’r lluniaeth, rhoi cynnig ar wehyddu, a gwrando ar gerddoriaeth gan Fand Arian y Waun, y delynores arobryn, Eiddwen Caradog, a Grŵp Alawon Sŵn y Nant – roedd pawb wedi mwynhau. Roeddem yn falch iawn bod cymaint o bobl wedi dod. Cipiwyd y digwyddiad gan Mike Harrison.

Ychwanegodd Louise “Mae ein gweithdai gwydr lliw wedi dechrau bellach. Rydyn ni’n gwneud 62 o baneli gwydr lliw ar gyfer ffenestri a ddarganfuwyd yn ystod y gwaith adnewyddu. Crëwyd y dyluniad ar gyfer y gwydr lliw gan yr artist, Simon Howard, sy’n arwain y gweithdai, gan weithio gyda phobl leol i wneud y ffenestri. Bydd y rhain yn cael eu gosod yn yr Hwb, gan daflu goleuni ar bron pob ystafell yn yr adeilad.

Meddai Emily “Rydyn ni eisiau estyn diolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yma ac yn enwedig i’r rhoddwyr sydd wedi hwyluso hyn i gyd. Rydyn ni wedi codi dros £1.5m gan yr arianwyr canlynol ar gyfer cost cyfalaf yr adeilad a’r prosiectau celfyddydau cymunedol.

Nodiadau i’r Golygydd:

Mae Awel Aman Tawe (AAT) yn elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 21 mlynedd. Cafodd ei chreu gan bobl leol yng Nghymoedd Tawe ac Aman Uchaf, hen ardal lofaol 20 milltir i’r gogledd o Abertawe. Ein prif sbardunau yw mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, creu swyddi, cadw cyfoeth yn economi Cymru, ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni. Mae gennym enw da am ddarparu addysg, y celfyddydau a chyfranogiad. Rydym wedi sefydlu dau gwmni cydweithredol:

Mae dros 80 o ysgolion a sefydliadau cymunedol lleol yn aelodau o gwmnïau cydweithredol Awel ac Egni, ac yn berchen ar fwy na £100k mewn cyfranddaliadau sy’n creu ffrwd incwm gynaliadwy o’r prosiectau. Mae hyn yn cynnwys nifer o grwpiau fel Merched y Wawr, ysgolion, clybiau chwaraeon a chanolfannau cymunedol.

Mae gennym dros 1,500 o aelodau yn ein cwmnïau cydweithredol ynni adnewyddadwy. Yn 2019, dyfarnwyd Awel Aman Tawe yn Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Menter Gymdeithasol y DU.

Rhannu’r Dudalen