Swyddi Newydd – ydych chi eisiau gweithio gyda ni i ennyn diddordeb pobl mewn gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd?

Mae Awel Aman Tawe yn hysbysebu dwy swydd newydd. Mae Awel Aman Tawe (AAT) yn elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 21 mlynedd. Ein prif sbardunau yw mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, creu swyddi, cadw cyfoeth yn economi Cymru, ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni. Mae gennym enw da am ddarparu addysg, y celfyddydau a chyfranogiad er mwyn cyflawni adfywio carbon isel.

Meddai Mary Ann Brocklesby, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr “Mae’r rhain yn ddwy swydd newydd a chyffrous. Rydym wedi bod yn ehangu’n gyflym ac rydym yn chwilio am Ddirprwy Reolwr i gefnogi ein prosesau cyllid a rheoli, a Swyddog Addysg i helpu i ddatblygu ein gwaith gydag ysgolion, colegau a’r cyhoedd. Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) sy’n ariannu’r swyddi hyn trwy Gynllun Cam 2 Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru.”

Mae AAT yn gweithio ar nifer o brosiectau, yn cynnwys effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy, adfywio, trafnidiaeth gynaliadwy, celfyddydau cymunedol ac addysg. Mae wedi datblygu dau gwmni cydweithredol, ac wedi codi dros £15m drwy gyfranddaliadau cymunedol a chyllid banc i’w cynnal. Mae AAT yn darparu cymorth rheoli/gweinyddol i’r ddau:

Awel Co-op

Ar hyn o bryd, mae Awel hefyd yn datblygu Hwb y Gors – canolfan addysg, menter a’r celfyddydau yn hen ysgol gynradd Cwm-gors. Mae gan AAT dîm bach o ddau aelod staff amser llawn a 4 rhan amser.

Hwb y Gors

Ar gyfer rôl y Dirprwy Gyfarwyddwr, rydym yn chwilio am berson brwdfrydig, sy’n ymrwymedig i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac a all gefnogi datblygu ein mentrau cymdeithasol a chryfhau ein rheolaeth prosiectau ac ariannol. Mae’r Disgrifiad Swydd ar gael yma. Ar gyfer y Swyddog Addysg, rydym yn chwilio am athro hyfforddedig /profiadol, sy’n ymrwymedig i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac a all gyfnerthu ein gwaith addysgol mewn ysgolion a gyda’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae’r Disgrifiad Swydd llawn ar gael yma.

Ysgol Gymraeg Casnewydd

Rhannu’r Dudalen