Pelydrau haul: Fferm Ofal Clynfyw ac Egni Co-op yn pweru tuag at yr Wythnos Fawr Werdd a Phythefnos Ynni Cymunedol

Mae Egni Co-op a Fferm Ofal Clynfyw yn falch iawn o gyhoeddi comisiynu eu system solar 32.8 kWp.

Meddai Cyfarwyddwr Clynfyw, Jim Bowen “Rydym wrth ein bodd gyda’r system solar a osodwyd gan y cwmni lleol, Preseli Solar. Ariannwyd yr holl gostau gan Egni Co-op. Mae Clynfyw wedi gweithredu ar fynd i’r afael â’r newid hinsawdd erioed ac mae gosod system solar yn rhan o’r daith honno. Mae’n wych cael gweithio mewn partneriaeth â chwmni cydweithredol i gyflawni hynny.”

Mae’r Fferm Ofal yn cefnogi oedolion ag anawsterau dysgu a’r rhai sy’n gwella ar ôl salwch meddwl. Mae Fferm Ofal Clynfyw yn Gwmni Buddiannau Cymunedol (CBC) a leolir ger pentref Boncath yn Sir Benfro. Mae’n defnyddio prosiectau ystyrlon fel offer ar gyfer dysgu, ymgysylltu, cyfrannu a chael hwyl trwy Wasanaeth Dydd ar y fferm a chefnogi pobl sy’n byw ym Mythynnod Fferm Clynfyw. Maent hefyd yn rheoli’r ganolfan adferiad iechyd meddwl Kinora yn Aberteifi. Mae Clynfyw wedi ennill nifer o wobrau am eu gwaith, yn cynnwys Gwobr Fenter y Frenhines (datblygu cynaliadwy) yn 2020.

Mae Clynfyw yn gartref i ddeg o bobl sy’n byw mewn tenantiaeth â chymorth ac mae’n darparu cyfleoedd ysbrydoledig i 45 o bobl agored i niwed sawl gwaith bob wythnos, a swyddi diogel, pleserus i 42 o staff a delir a gwirfoddol. Maent wedi rhannu eu profiad ag eraill ac wedi ysgrifennu llyfr ‘Care Farming for Beginners – a how to Guide’.

Ychwanegodd Jim “Ddoe, cafodd y safle cyfan ei bweru gan yr haul o 7.30am tan 8pm, ac ni fewnforiwyd yr un uned o ynni o’r grid. Arbedwyd 115 kg o CO2 mewn un diwrnod a chynhyrchwyd dros 200kWh. Gan fod costau trydan wedi codi gymaint, bydd y paneli yn arbed arian i ni gan ein bod yn talu 60% yn llai am bob kWh i Egni Co-op o gymharu â’n prif gyflenwr. Ac mae’n wyrdd, ac ar ein to!”

Meddai Michael Switzer, Rheolwr Gweithrediadau Egni Co-op “Roedd yn anrhydedd cael ein gwahodd gan Jim i osod ynni solar yma. Mae Clynfyw yn un o sefydliadau gwirioneddol ysbrydoledig Cymru. Mae ansawdd eu gwaith yn amlwg wrth siarad â’r bobl sy’n dod yma bob dydd a’r rhai sy’n byw ar y safle.

Nodiadau i’r Golygydd:

Awel Aman Tawe (AAT) / Egni Co-op

Mae AAT yn elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 21 mlynedd. Cafodd ei chreu gan bobl leol yng Nghymoedd Tawe ac Aman Uchaf, sef hen ardal lofaol 20 milltir i’r gogledd o Abertawe. Ein prif sbardunau yw mynd i’r afael â newid hinsawdd, creu swyddi, cadw cyfoeth yn economi Cymru, ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni. Mae gennym enw da am gyflenwi addysg, y celfyddydau a chyfranogiad. Rydym wedi sefydlu dau gwmni cydweithredol:

Mae dros 80 o sefydliadau cymunedol ac ysgolion lleol hefyd yn aelodau o gwmnïau cydweithredol Awel ac Egni – maen nhw’n berchen ar fwy na £100k mewn cyfranddaliadau, ac yn ennill ffrwd incwm gynaliadwy o’r prosiectau. Mae gennym dros 1,500 o aelodau yn ein dau gwmni cydweithredol ynni adnewyddadwy. Yn 2019, cafodd Awel Aman Tawe ei dyfarnu’n Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU.

Fferm Clynfyw

Mae Fferm Clynfyw yn goetir ac yn fferm organig 395 erw yng Ngogledd Sir Benfro sydd wedi cael ei ffermio gan y teulu Lewis-Bowen ers y 1750au. Ers 1985, mae wedi cynnig llety hygyrch, o safon uchel mewn adeiladau fferm Fictoraidd wedi’u haddasu. Mae hefyd yn cynnal priodasau, cynadleddau ac amrywiaeth o gyrsiau yn ymwneud â’r amgylchedd, cynaliadwyedd a mynediad anabledd. Caiff y rhan fwyaf o’r tir amaeth ei rentu i ffermwr organig, Hefyn Evans, ac mae’r CBC yn defnyddio tua 12 erw ar gyfer ei waith ffermio gofal.

Mae Cyngor Sir Penfro wedi defnyddio bythynnod Clynfyw ar gyfer arosiadau seibiant i’w dîm Anabledd Dysgu ers 2009 a darperir cymorth gofal gan nifer o wahanol ddarparwyr gofal cartref cofrestredig.

Rhannu’r Dudalen