Mae Hwb y Gors yn cynrychioli ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy a grymuso cymunedau, gan greu lle bywiog lle mae creadigrwydd, dysgu a chyfrifoldeb amgylcheddol yn dod at ei gilydd.
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi ein bod bron yn barod i agor ein drysau!
Bydd ein Tîm Cyngor Ynni, ein Tîm Trafnidiaeth Gymunedol, a’n Tîm Celfyddydau ac Addysg i gyd yn symud i Hwb y Gors yn fuan iawn, gan ddod â’n gwasanaethau ynghyd o dan un to i wasanaethu’r gymuned leol yn well.

Rydym wedi codi £1.9 miliwn ar gyfer ei adnewyddu ac wedi bod yn gweithio’n galed ers dwy flynedd, gan gadw nodweddion poblogaidd yr ysgol a datblygu caffi cymunedol, stiwdios cydweithio a mannau menter, cynllun cludiant trydan cymunedol, neuadd a chyfleusterau addysg a gardd gymunedol. Mae’r gymuned wedi cymryd rhan yn y gwaith o ailwampio’r ysgol, nid yn unig wrth wneud penderfyniadau ond hefyd wrth wneud ffenestri lliw, teils a chwilt treftadaeth 10 metr o hyd er cof am yr ysgol.
Mae gan Hwb y Gors 90kW o solar ar y to a system wresogi ffynhonnell ddaear 50kW. Mae’r waliau allanol wedi’u gorchuddio ag inswleiddiad corc ac wedi’u gorffen â chalch traddodiadol.