Y gwanwyn hwn, mae gennym nifer o weithdai am ddim a gynlluniwyd i egluro dirgelion garddio, tyfu, twrio am fwyd a choginio’ch cynnyrch!
Twrio am fwyd gydag Alicja Domanska-Kurec. 15 Chwefror 10am-1pm: Taith gerdded leol i dwrio am blanhigion bwytadwy a meddyginiaethol, yna dysgu sut i ddefnyddio’r pethau a gasgloch.
Gweithdai Cegin Wyllt gydag Alicja Domanska-Kurec: 15 Chwefror a 2 Mawrth 2.30-5.30pm. Sut i goginio gyda phlanhigion gardd a gwyllt.
Cyfnewid Hadau’r Gwanwyn 2 Mawrth, 10am-1pm: Dewch â hadau i’w cyfnewid – hadau rydych wedi eu casglu, eu derbyn neu eu prynu. Gwrandewch ar Arbenigwr Garddio BBC Radio Wales, Liz Zorab
Byddwn yn rhedeg llawer o weithdai eraill yn y dyfodol agos: gyda’r Orchard Project ar ofalu am goed ffrwythau, gyda Liz Zorab ar dyfu bwyd, gyda Choed Lleol/Small Woods a gyda Menter Cadwraeth Natur Cymru.
Mae ein grŵp natur a garddio wedi bod yn brysur iawn eleni yn creu amrywiaeth eang o gynnyrch. Maent wedi rhannu ryseitiau ac awgrymiadau coginio, wedi rhoi llwyth o lysiau gormodol i’r banc bwyd lleol ac maent yn brysur yn cynllunio’r ardd ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mynychodd aelodau o’r grŵp weithdai mewn Garddio a Lluosogi Ffrwythau Meddal gyda’r Arbenigwr Garddio BBC Radio, Liz Zorab. Cawsom hefyd gwmni’r gŵr difyr Bryan Collis o Wild Plant Paper a arweiniodd 2 weithdy hwyliog iawn ar sut i wneud papur o blanhigion. Rydyn ni’n siŵr bod llawer o bobl wedi derbyn cardiau Nadolig hardd eleni! Ym mis Rhagfyr, i gloi’r flwyddyn, rhedodd Krys Toombs 2 weithdy i wneud Addurniadau Nadolig porslen, lle gwnaeth 40 o bobl dros 600 o addurniadau! Cawsom ddathliad Nadolig gwych a drefnwyd gan Fand Arian GCG a buom wrthi’n addurno ein coed Nadolig byw newydd a roddwyd yn hael gan Coed Nadolig Perthigwynion. Caiff y coed Nadolig eu plannu yn Hwb y Gors – bydd y grŵp garddio’n gofalu amdanynt, a bydant yn tyfu wrth i ni dyfu!
Ynghyd â’r grant Cronfa Ffyniant Gyffredin a dderbyniwyd yn ddiweddar i dirlunio’r iard, rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi derbyn grantiau gan Gronfa Mae Cymuned yn Cyfrif y Grid Cenedlaethol, Tai Tarian, Partneriaeth Fwyd Cyngor CnPT a Lleoedd Lleol ar gyfer Natur CnPT. Rydym hefyd wedi derbyn coed gan Goed Cadw, a phecyn datblygu ar dyfu bwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus. Bydd y tirlunio’n cynnwys gerddi, coed, mannau hamdden a seddau ar hyd y cefn. Rydym wedi prynu offer mawr ei angen i’r grŵp garddio ac yn paratoi rhaglen gyffrous o weithdai ar gyfer 2024. Cadwch lygad ar ein tudalen facebook neu cysylltwch â Louise os hoffech gymryd rhan ac/neu fwcio eich lle ar y gweithdai
Dyma luniau o’r ardd: