Y Diweddaraf ar Hwb y Gors

Roeddem yn llawn cynnwrf o glywed yr wythnos ddiwethaf ein bod wedi llwyddo i gael arian Cronfa Ffyniant Gyffredin gan CnPT i greu system ddraenio gynaliadwy a thirlunio’r iard yng nghefn Hwb y Gors. Bydd hyn yn digwydd eleni ar ôl i ni baratoi rhaglen waith. A thu mewn i’r Hwb, mae ein hadeiladwyr wedi bod yn gweithio’n galed yn ystod 2023. Er bod y gwaith adnewyddu wedi para llawer yn hirach na’r disgwyl, teimlwn y bydd yn werth yr aros. Dyma luniau o du mewn yr adeilad. Rydym yn llawn cyffro wrth weld sut mae’r adeilad yn datblygu, gyda’n llawr crog a’r oriel newydd yn y neuadd, a’n hystafell Lleoedd Newid gyda theclyn codi a gwely newid oedolion. Rydym wedi gwneud ein gorau i gadw ac ail-greu rhai o nodweddion hardd yr adeilad fel y ffenestri mewnol, y lleoedd tân, trawstiau’r neuadd a’r gwaith plastr crwm, ynghyd â’r gwaith carreg anhygoel ar y fynedfa. Teimlwn yn gryf bod y 110 mlynedd o atgofion o’r ysgol yn parhau i oroesi yn yr adeilad.

Y camau nesaf yw: gosod y caffi, gosod y lloriau drwy’r holl adeilad a thirlunio’r iard gyda system ddraenio gynaliadwy (SDCau). Nod y draenio cynaliadwy yw cadw dŵr ar y safle cyhyd â phosibl yn hytrach na’i arllwys i gyd i’r prif ddraeniau – sy’n achosi llifogydd a phroblemau eraill ymhellach i lawr y cwm. Bydd y system hefyd yn dal dŵr glaw o’r to a’i ddargyfeirio i ddyfrhau’r ardd a fflysio’r toiledau.

Pan fydd hyn oll wedi ei orffen, byddwn yn barod o’r diwedd i agor drysau Hwb y Gors!  Rhag ofn i chi golli hyn, dyma fideo byr gan Mike Harrison yn esbonio beth sy’n digwydd yn Hwb y Gors: https://www.youtube.com/watch?v=HW4E86IPdoo

Rhannu’r Dudalen