Clwb Gwnïo

Ymgododd Clwb Gwnïo’r Hwb o’n prosiect Cwilt Treftadaeth a redwyd gan yr arbenigwr mewn gwnïo cynaliadwy Menna Buss o Iâr Stiwdio ac aelodau dawnus Urdd Gwehyddion, Troellwyr a Lliwyddion Tawe (a ariennir gan Gyngor y Celfyddydau Cymru). Yn ystod y prosiect gwnaeth dros 300 o gyfranogwyr gwilt anhygoel yn defnyddio deunyddiau a thechnegau carbon isel ac mae’n atgof o’r ysgol a’r ardal leol. Dathlom ei orffen gyda pharti gwych a bydd yn cael ei arddangos yn barhaol yng nghaffi Hwb y Gors pan fyddwn yn agor. Ers hynny, mae’r Clwb Gwnïo wedi bod yn cwrdd bob pythefnos i gefnogi ei gilydd ond hefyd i rannu eu sgiliau i helpu grwpiau eraill – yn cynnwys Awel Aman Tawe!  – Mentyll Rhyfelwr ar gyfer ein rhaglen addysg hinsawdd (Rydym yn Rhyfelwyr Ynni), Fests Wigli* ar gyfer yr elusen leol Joseph’s Smile, gwisgoedd ar gyfer eu sioeau Nadolig cymunedol a nawr, ffedogau ar gyfer ein gwirfoddolwyr. Diolch i chi bod un yn y Clwb Gwnïo!

Cynhelir y Clwb Gwnïo ar ddydd Mawrth 1af a 3ydd bob mis yn neuadd gymunedol Cwm-gors, SA18 1PS (10-12.30). Mae’r grŵp yn cwrdd gyda’u prosiectau eu hun, ac yn mwynhau paned, sgwrs a jôc! Os ydy hyn yn apelio atoch, cysylltwch â Sandra yn sandrarobbs@hotmail.com

*Dyluniwyd y Fests Wigli gan sylfaenydd yr elusen, Katy Yeandle. Dyluniwyd y fests i helpu plant sydd angen Tiwbiau Hickman wrth gael eu trin am Ganser. Mae’r rhain yn caniatáu iddynt chwarae heb dynnu’r tiwbiau allan ac felly gorfod mynd nôl i’r ysbyty.

Rhannu’r Dudalen