Mae Taith Coop yn cefnogi pobl fregus yng Nghastell-nedd Port Talbot, Abertawe a Sir Gâr – pobl sydd ag anawsterau dysgu, pobl anabl, gofalwyr a’r henoed. Er enghraifft, rydyn yn mynd â phobl i apwyntiadau ysbyty, lleoliadau gwaith, gweithgareddau cymdeithasol ac i’r coleg.
Rydyn ni’n cydweithio gyda sefydliadau sy’n gweithio gyda’r grwpiau hyn fel Sefydliad Jac Lewis, Eiriolaeth Eich Llais Chi, Henoed Pontardawe, Parc Vivian a Byw â Chymorth Park Row. Mae gan un o’n cerbydau 7 sedd a ramp ar gyfer mynediad cadair olwyn.
Ers mis Medi 2022, rydym wedi cefnogi 102 o deithwyr sydd wedi gwneud 1134 o deithiau gan deithio cyfanswm o 15,492 o filltiroedd. Mae hyn wedi arbed dros 1.4 tunnell o allyriadau carbon gan ein bod yn defnyddio cerbydau trydan.
Rydym hefyd yn bwriadu datblygu clwb ceir trydan fel rhan o brosiect Cymru Gyfan a ariennir gan y Loteri.

Mae gwerth y cymorth yr ydym wedi’i ddarparu i’w weld yn y fideo byr hwn a wnaed gan Bartneriaeth Iechyd Gorllewin Morgannwg am ein gwaith yn cefnogi Eich Llais Eiriolaeth a’u gwaith gyda phobl ag anawsterau dysgu.