Rydym yn cynhyrchu ynni glân, gan alluogi ein safleoedd i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd a bod yn fwy sefydlog yn ariannol. Yn 2022, arbedom dros £119k mewn costau trydan i’n safleoedd, ynghyd â thros 1,000 o dunelli o allyriadau carbon. Trwy ein cynnig cyfranddaliadau cydweithredol, rydym hefyd yn rhoi cyfle i bobl fuddsoddi eu harian tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy a chael cyfradd adennill deg. Mae’r holl elw dros ben yn cael ei sianelu i’n Rhaglen Addysg.
Mae Awel ac Egni wedi ad-dalu llog i’w haelodau yn flynyddol yn unol â’u Cynigion Cyfranddaliadau.
Bydd ein Cynnig Cyfranddaliadau newydd yn derbyn ceisiadau yn Mis Rhagfyr 2024. Cofrestrwch ar ein Rhestr Bostio i dderbyn manylion.

Sefydlom Gwmni Cydweithredol Egni yn 2013 fel cynllun peilot ar 7 adeilad cymunedol.
Rhwng 2019-21, ehangodd Egni yn sylweddol gan ddatblygu 80 o safleoedd ychwanegol ar draws Cymru. Codom gyfranddaliadau cymunedol gwerth £5m a benthyca dros £2m gan Fanc Datblygu Cymru.
Rydym yn parhau i ddatblygu safleoedd newydd. Dyma ein Cwestiynau Cyffredin ar gyfer darpar safleoedd – rydym yn blaenoriaethu toeon mawr ar hyn o bryd (maint dau gwrt tennis) ac sy’n defnyddio mwy na 100,000 kWh/y flwyddyn (bil trydan o dros £35k). Os oes diddordeb gennych mewn gweithio gyda ni, cysylltwch â Michael Switzer, ein Cyfarwyddwr Datblygu michael@awel.coop
Dyma ffilmiau o’n gosodiadau ar Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a Chlwb Pêl-droed Tref Merthyr