Cyfarwyddwr Datblygu Solar – rydyn ni’n recriwtio!

Mae AAT yn chwilio am Gyfarwyddwr Datblygu Solar profiadol a gweithgar. Bydd yr ymgeisydd a ddewisir yn ymrwymedig i gyflymu taith Cymru tuag at garbon sero-net ac i eiriol dros rôl y sector ynni gymunedol wrth wneud hynny. Bydd disgwyl iddo/iddi fwrw ati ar unwaith i gynnal momentwm di-ail Egni Co-op rhwng 2019 a 2021 trwy elwa ar berthnasoedd presennol, meithrin rhai newydd, a gofalu am y portffolio adeiladu.

Ysgol Gymraeg Casnewydd

Gan adrodd i reolwr gyfarwyddwr AAT, bydd y rôl yn cynnwys cyfrifoldebau mewnol ac allanol eang eu cwmpas. Er mwyn rheoli dau ddatblygiad presennol Egni a’r staff gweithrediadau a rheoli, bydd y rôl yn golygu cydweithio nid yn unig yn fewnol ond gydag amrywiaeth eang o 3ydd partïon sy’n gweithio yn y rheng flaen o ran ynni cymunedol a’r llwybr i gyfeiriad sero-net.

Dywedodd Rosie Gillam, Datblygwr Egni “Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i ymuno â ni. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i roi cyllid gwerth £2.35m i Egni gan gynnwys grant o £990k, ac ar hyn o bryd rydyn ni’n asesu gosod 1.5MW yn ychwanegol ar safleoedd ledled Cymru. Bydd y swydd newydd hon yn ychwanegu’n fawr at ein gallu. Mae’r swydd yn talu rhwng £35-38k a gallwch weld y disgrifiad swydd yma. Rydym yn ddiolchgar iawn bod y swydd hon yn cael ei hariannu gan Gynllun Cydnerthedd Trydydd Sector Cymru, Cynllun Cam 3, a weinyddir gan WCVA.”

Rhannu’r Dudalen