Rhyfelwyr Ynni yn mynd yn greadigol… ac yn dechnegol!

Dros y ddau dymor diwethaf, mae Jen, ein Swyddog Addysg, wedi bod yn cyflwyno ein rhaglen Rydym yn Rhyfelwyr Ynni mewn saith ysgol gynradd yn Sir Benfro. Roedd naws economi gylchol a chreadigol i waith y tymor hwn! Mae’r disgyblion wedi bod yn dysgu am eu defnydd o ynni drwy Energy Sparks gan gymryd rhan mewn arbrofion ynni adnewyddadwy gydag Ynni Da a rhannu eu negeseuon i leihau ynni trwy rapio a dylunio murluniau gyda Mr Phormula a Sion Tomos Owen. Mae disgyblion eraill wedi bod yn dysgu sut gallwn arbed ynni trwy dalu sylw gofalus i’r dillad a brynwn a’r bwyd a fwytawn. Mae ein Rhyfelwyr Ynni wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o wastraff trwy wneud dillad newydd o rai hen gyda’r artist Nia Lewis, twrio am fwyd, a lliwio naturiol gyda’r dylunydd anhygoel, Siân Lester, wrth wneud clustog-fagiau (cyfuniad o fagiau a chlustogau!), a phlannu, tyfu, cynaeafu a choginio gyda’r ysgol goedwig ddawnus Plant y Ddaear.

Mae’r ysgolion hefyd wedi bod yn cyfrannu at ein rhaglen STEM. Yng Nghasnewydd, mae ysgolion cynradd Egni wedi cyflwyno ‘Ail-ddychmygu Ynni’ gyda Dr Sarah-Jane Potts. Mae Sarah-Jane wedi bod yn teithio o gwmpas ysgolion yn ysbrydoli peirianwyr y dyfodol trwy offer maes chwarae sy’n cynhyrchu ynni. Creodd y disgyblion faes chwarae Lego i wneud ynni! Mae Prifysgol Abertawe hefyd wedi arwain arbrawf batris ceiniog gyda’n rhyfelwyr ynni, ac mae’r disgyblion wedi cwrdd â Llysgenhadon STEM o Blue Gem Wind, Tata Steel a Fforwm Arfordirol Penfro. Cawsant gyfle i gwrdd â fforiwr y pegynau hefyd, a roddodd hanes ei alldaith i Antarctica iddynt.

Ar hyn o bryd mae Jen yn gweithio gyda’r artist Ami Marsden a’r grŵp theatr ieuenctid Mess Up The Mess i gyflwyno rhaglen newydd o’r enw Our Sensory Story of Energy. Mae hon bellach ar ei hanterth gan ddod â disgyblion Ysgol Gyfun Penyrheol ac Ysgol Crug Glas at ei gilydd i fywiogi ynni drwy ddefnyddio gwastraff ac ailgylchu i ddweud ein stori arbennig iawn.

Rhannu’r Dudalen