Dyfarniad Tra Chymeradwy i Egni

Roeddem yn falch iawn o glywed bod Egni Co-op wedi derbyn Gwobr Tra Chymeradwy fel Sefydliad Ynni Cymunedol y Flwyddyn 2023 gan Community Energy England. Gan eu bod newydd ennill y tendr i osod paneli solar ar tua 20 ysgol a chanolfan hamdden yng Nghyngor Sir Penfro, rydym yn llawn cynnwrf wrth weld bod llawer o gynghorau yn Ne Cymru yn cymryd ynni cymunedol o ddifrif. Mae Mike, Rosie ac Ellie – ein tîm Egni – yn parhau i weithio’n galed ar draws Cymru. Ar hyn o bryd maent yn asesu ac yn cyflwyno tendrau ar gyfer safleoedd gyda chapasiti 1MW ychwanegol ar gyfer solar ar doeon. Mae safleoedd fel Amlosgfa Gwent, Canolfan Hamdden Abergwaun, Ysgol Archesgobaeth Sant Joseff, Wastesavers ym Maendy ymhlith eraill, ar amrywiol gamau’r broses ddylunio a gosod.

Mae Mike, a welir yn y llun isod yn derbyn y wobr, hefyd yn cynnal Arolygon Ynni ac yn gweithredu fel mentor trwy’r rhaglen EGIN ar gyfer nifer o brosiectau ynni cymunedol wrth i ni ymgeisio am gymorth gan eraill yn ein hymgyrch i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.  Ar ôl arolwg ynni diweddar ar Ganolfan Gymunedol Bloomfield yn Sir Benfro, maent wedi derbyn grant gwerth £20k tuag at uwchraddio i oleuadau LED , system wresogi fwy effeithlon o ran ynni, ac aráe ychwanegol o solar PV i’w helpu gyda’r costau ynni cynyddol a gostwng eu hôl troed carbon.

Rhannu’r Dudalen