Cydweithfa PV gyntaf Cymru

Fe wnaethom sefydlu Egni Co-operative yn 2013 fel cynllun peilot i godi arian trwy gyfranddaliadau cymunedol ac yna gosod solar ar doeon 7 adeilad cymunedol yng Nghymoedd De Cymru. Cawsom ymateb cadarnhaol iawn a chodwyd £260,000 ar gyfer y gosodiadau cychwynnol hynny.
Egni Co-op oedd y Cwmni Cydweithredol Solar PV cyntaf yng Nghymru ac enillodd y wobr Busnes Newydd Gorau yng Ngwobrau Ynni Gwyrdd RenewableUK Cymru 2014.
90 o Safleoedd ar draws De Cymru, ac yn cynyddu
Ers hynny, mae Egni Co-op wedi gosod bron 5 MWp o ynni solar ar doeon ysgolion, adeiladau cymunedol, awdurdodau lleol a busnesau. Mae’r fideos isod yn dangos ein gosodiadau ar Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas – ar y pryd, hwn oedd yr aráe solar mwyaf yng Nghymru. Gallwch weld ein gosodiad ar Glwb Pêl-droed Tref Merthyr hefyd. Gwnaed y ddau fidwo gan Mike Harrison, ein gwneuthurwr ffilmiau gwych sydd wedi ennill Bafta Cymru.
