Estynnwn wahoddiad i chi i’n digwyddiad ar ddydd Mawrth 23 Gorffennaf. Mae croeso i bawb, nid dim ond aelodau presennol Awel ac Egni Coop. Ac mae am ddim!
Bydd yr Ymweliad â Safle’r Fferm Wynt rhwng 4pm a 6pm a bydd coets yn mynd â chi i’r fferm wynt o Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe. Gallwch ddod i’r Canolfan Gelfyddydau o 3pm ymlaen a chael paned o de, pice ar y maen a sgwrs.
Byddwn nôl yn y Ganolfan Gelfyddydau am 6pm ar gyfer Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol Egni ac Awel Coop. Gweler isod am ragor o wybodaeth.
Ac yna am 6.30pm, trefnir bwffe llysieuol/fegan llawn yn y Ganolfan Gelfyddydau (am ddim), bydd y bar ar agor, a byddwn yn mwynhau cerddoriaeth gan y grŵp anhygoel Fiddlebox.
Am 7pm, byddwn yn lansio Egni, ein cynnig cyfranddaliadau newydd ar gyfer solar ar doeon sydd â’r nod o osod hyd at 5MW ar draws Cymru erbyn Mawrth 2020. Rydym wedi codi £400k o’n targed o £750k yn barod. Mae mwy o wybodaeth a’n ffurflen fuddsoddi ar-lein ar gael yn www.egni.coop Bydd un o’n Cyfarwyddwyr, Rosie Gillam, yn rhoi cyflwyniad a bydd y cyfarwyddwyr yno i ateb cwestiynau.
Ar gyfer y Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, dyma ddolennau i Adroddiad/Cyfrifon Drafft 2018 Egni a Chyfrifon ac Adroddiad Awel. Bydd ein Cyfrifwyr, Bevan and Buckland, wrth law i gyflwyno Cyfrifon Awel.
- I fwcio ar gyfer yr ymweliad â safle’r fferm wynt, cliciwch yma.
- I fwcio ar gyfer y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol/Bwffe a Fiddlebox, cliciwch yma.
Am 7.30pm, byddwn yn cael Twmpath (dawns ysgubor Gymreig) gyda Fiddlebox i ddathlu lansiad Egni. Mae croeso i chi roi cynnig ar bob math ar ddawnsio a bydd y bar ar agor sy’n helpu bob amser!
I grynhoi:
3-4pm Dewch i Ganolfan Gelfyddydau Pontardawe
4pm Y goets yn gadael y Ganolfan Gelfyddydau am y fferm wynt
6 pm Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol Egni ac Awel
6.30pm Bwyd
7pm Lansiad Egni
7.30pm Twmpath
Gobeithio y byddwn yn eich gweld ar y 23ain.
Dan, Rosie, Carl, David, Suzanne, Mary Ann
Cyfarwyddwyr www.egni.coop & www.awel.coop