Y Lloerlun

Gan fod y capsiwl yn aros i gael ei beintio’r wythnos nesaf gan Ysgol Pontardawe, cefais gyfle i feddwl am y Lleuad a beth fyddaf yn ei ddarganfod yno. Dim atmosffer, craterau….. a chaws, ie?

Cefais gymorth gan Suzette a Carwyn, Chris a Nick i ddechrau duo’r Gofod a helpu i greu’r (diffyg) atmosffer ar y Lleuad. Mae’n rhyfedd faint o ddefnydd sydd eisiau arnoch i gau’r goleuni allan yn llwyr. Dyna dasg arall ar gyfer y penwythnos: prynu mwy o ddefnydd du …ynghyd â gwneud craterau, gwregys diogelwch i’r tedis gofod, gwnïo fy siwt ofod, chwilio am acrylig bioddiraddadwy ar gyfer y ffenestr ac ati, ac ati…

Cyrhaeddodd Derek a buom wrthi’n trafod y Lloerlun. Roeddwn wedi bwriadu peintio’r leino, ond penderfynom na fyddai’r leino’n gallu dal paent, felly nôl a mi at y papier mâché eto.

Cyrhaeddodd Ron o’r grŵp Celfyddydau yng Nghwm Tawe, a threulio awr neu fwy yn gweithio ar y panel rheoli Pŵer. Mae ganddo flynyddoedd lawer o brofiad o drwsio peiriannau Radar, felly rwy’n credu byddaf yn iawn.

Ond wedi blino’n lân ar hyn o bryd…. Wythnos arall o adeiladu ac yna’r Esgyniad – am 8pm, ddydd Gwener 4 Hydref. Mae croeso i bawb ddod i ‘ngweld yn esgyn yn fy llong ofod ?

Rhannu’r Dudalen