Y diwrnodau olaf ar y Lleuad, yna nôl i’r Ddaear

Roedd yr wythnos olaf ar y Lleuad yn un brysur. Daeth ysgolion, grwpiau a phlant (ac oedolion) ar grwydr i ymweld. At ei gilydd, mae dros 800 o bobl wedi ymweld â minnau a Greta ar y Lleuad.

Ac yng nghanol yr holl gyffro, tarodd greadur estron ei ben uwchlaw crater.

Mae’r arddangosfa “Neges i’r Bydysawd” wedi tyfu a thyfu. Torrom ddarnau o’r lleuad fel ein cynfasau a defnyddio ddefnyddiau wedi’u hailgylchu i greu ein harddangosfa am Y Ddaear. Dyma rai o’m ffefrynnau

Gosodom y faner ar y lleuad i gefnogi’r holl wrthdystwyr Extinction Rebellion nôl ar y Ddaear. Cafodd bron 2,000 o bobl eu harestio yn y gwrthdystiadau yn Llundain tra roeddwn ar y Lleuad.

Pan oeddwn ar y Lleuad, ysgrifennais gerdd ynglŷn â’r profiad cyfan Pontardawe’s Handy Guide to Sustainable Space Travel https://aat.cymru/wp-content/uploads/2019/11/Pontardawe-handy-guide-to-space-travel.pdf

Gan fy mod yn postio barddoniaeth, dyma ddolen i’m cerdd ar yr esgyniad, o’r enw What if… : https://aat.cymru/wp-content/uploads/2019/11/What-if….pdf

Ac yna nôl i’r Ddaear.

Am fis anhygoel! Rwy’n dal i brosesu’r cyfan o hyd, ond roedd yn bendant yn brofiad sy’n newid bywyd, ac yn un na fyddaf yn ei anghofio.

Rhannu’r Dudalen