Cynghorydd Ynni – Awel Aman Tawe (AAT)
Lleoliad: Hwb y Gors, Cwm-gors, SA18 1RF (gyda rhywfaint o weithio gartref)
Contract: Dwy flynedd (gydag estyniad posibl yn amodol ar gyllid)
Oriau: 5 diwrnod yr wythnos (rydym yn agored i geisiadau rhan-amser am 4 diwrnod yr wythnos)
Cyflog: £30,500 pro rata
Ynghylch y rôl
Mae Awel Aman Tawe (AAT) yn elusen ynni cymunedol flaenllaw sy’n gweithio i greu dyfodol teg, fforddiadwy, carbon isel. Mae ein Tîm Ynni, sy’n gweithio o Hwb y Gors, yn helpu preswylwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r ardal leol i gadw’n gynnes, lleihau eu biliau, deall eu defnydd o ynni, a chyrchu cyllid ar gyfer gwelliannau i’w cartrefi.
Nawr rydym yn recriwtio Cynghorydd Ynni cymwysedig a phrofiadol i ymuno â’r tîm. Rydym yn chwilio am rywun a all ddechrau darparu cyngor yn gyflym ac yn hyderus, gan gyfrannu eu hyfforddiant a’u sgiliau presennol at y gwaith.
Byddwch yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, yn cefnogi aelwydydd sy’n byw mewn cartrefi oer neu laith, ac yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Cymoedd Aman Uchaf ac Abertawe.
Amdanoch chi
Rydym yn chwilio am berson cyfeillgar, tosturiol sy’n cael ei symbylu gan helpu pobl i wella’u hamgylchiadau. Bydd gennych gymhwyster National Energy Action y City & Guilds Lefel 3 (neu gymhwyster cyngor ynni cydnabyddedig cyfwerth), ynghyd â phrofiad o ddarparu cyngor ynni mewn cartrefi neu leoliadau cymunedol.
Byddwch yn hyderus wrth:
- siarad â phobl mewn sefyllfaoedd ingol neu fregus
- rhoi cyngor ymarferol a chywir
- cynnal arolygon ynni yn y cartref
- nodi cyfleoedd arbed ynni a materion adeiladu sylfaenol
- cefnogi cleientiaid gyda cheisiadau am grantiau neu gynlluniau
- dogfennu gwaith a chadw cofnodion cywir
Mae angerdd dros gynaliadwyedd, mynd i’r afael â thlodi tanwydd a gwaith yn y gymuned yn hanfodol.
Cyfrifoldebau
Fel rhan o Dîm AAT, byddwch yn:
- Rhoi cyngor ynni dros y ffôn ac wyneb yn wyneb i breswylwyr.
- Cynnal arolygon ynni domestig, yn cynnwys nodi lefelau inswleiddio, systemau gwresogi a materion lleithder/llwydni.
- Darparu cyngor ar dariffau, dyled tanwydd, mesuryddion deallus a rheoli ynni yn y cartref.
- Gosod mesurau arbed ynni syml mewn aelwydydd agored i niwed (e.e. bylbiau LED, adlewyrchyddion rheiddiaduron, rhimynnau drafft).
- Helpu preswylwyr i gyrchu cynlluniau gwresogi ac inswleiddio a’u cyfeirio at sefydliadau partner pan fod angen.
- Cefnogi digwyddiadau, gweithdai a gweithgareddau allgymorth yn Hwb y Gors ac yn y gymuned.
- Cadw cofnodion cywir ar gronfa ddata gleientiaid AAT a chefnogi arferion rheoli data da.
- Cydweithio gyda thîm ôl-osod AAT, gan atgyfeirio a chydweithio lle mae arolygon yn dangos bod angen gwaith mwy cymhleth.
- Bod yn llysgennad dros werthoedd AAT a helpu i hybu ein gwaith yn lleol.
Manyleb Person
Angenrheidiol
- Ymwybyddiaeth Ynni City & Guilds Lefel 3 (neu gymhwyster cyngor ynni cyfwerth).
- Profiad o roi cyngor ar ynni yn y cartref.
- Sgiliau cyfathrebu a gwrando cryf.
- Yn gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm bach.
- Empathi ac amynedd wrth gefnogi aelwydydd agored i niwed.
- Sgiliau gweinyddu da a thrylwyredd.
- Yn gallu teithio’n annibynnol ar draws ein hardal led-wledig.
- Yn gallu dringo ysgol fer er mwyn archwiliadau caeadau llofft (lle mai hyn yn saff ac yn hygyrch).
- Parodrwydd i gyflawni gwiriad DBS.
Dymunol
- Hyfforddiant/cymwysterau Aseswr Ôl-osod neu Ynni Domestig.
- Gwybodaeth am Gastell-nedd Port Talbot a’r cwmpasoedd.
- Siaradwr Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu Cymraeg.
- Profiad o gydweithio gyda sefydliadau cymorth neu gymunedol.
Yr hyn a gynigiwn
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol + gwyliau banc (pro rata)
- Cynllun pensiwn moesegol (5% o arian cyfatebol gan y cyflogwr)
- Gweithlu cefnogol, cyfeillgar mewn elusen ynni cymunedol sy’n tyfu
- Cyfleoedd am hyfforddiant wedi’i ariannu ychwanegol (e.e. Aseswr Ôl-osod)
Sut i Ymgeisio
Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn esbonio pam rydych eisiau gweithio gyda ni a sut mae eich profiad yn bodloni disgwyliadau’r rôl.
E-bostiwch eich cais atcroeso@awel.coop
Llinell Pwnc: Cais Cynghorydd Ynni
Dyddiad cau: 20 Ebrill 2026
Cyfweliadau: 30 Ebrill 2026
Dyddiad cychwyn: Cyn gynted â phosibl
