Swyddog Addysg a’r Celfyddydau Hwb y Gors

Swyddog Addysg a’r Celfyddydau Hwb y Gors

Disgrifiad Swydd

Pwy ydym ni:

Mae Awel Aman Tawe yn elusen yng Nghwm Aman uchaf a sefydlwyd yn 1998 gyda’r ddau amcan o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi cydnerthedd cymunedol.  Rydym wedi datblygu’r ddau gwmni cydweithredol ynni adnewyddadwy mwyaf yng Nghymru: Awel Coop (ein cwmni cydweithredol gwynt) ac Egni Co-op (ein cwmni cydweithredol solar). Rydym hefyd yn rhedeg amrywiaeth o brosiectau yn cynnwys y rhaglen addysg i ysgolion Rhyfelwyr Ynni, trafnidiaeth gymunedol gynaliadwy, rhoi cyngor effeithlonrwydd ynni, a chelfyddydau yn y gymuned.  Prynom hen ysgol gynradd Cwm-gors yn 2018 ac ar hyn o bryd rydym yn ei hail-ddatblygu yn ganolfan carbon isel ar gyfer addysg, menter a’r celfyddydau: Hwb y Gors.  Rhagwelwn y bydd y ganolfan yn agor yn gynnar yn 2025 a bydd y swydd Rheolwr y Rhaglen Addysg a’r Celfyddydau hon yn chwarae rhan allweddol yn datblygu ein gweledigaeth ar gyfer y lleoliad.

Crynodeb o’r Swydd

Gan weithio gyda’n Cyfarwyddwr Creadigol, Arweinydd ein Rhaglen Allgymorth Addysg a’n Rheolwr Canolfan, byddwch yn datblygu ac yn rheoli rhaglen addysg a’r celfyddydau sy’n adlewyrchu’r ddau amcan, sef mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd/bioamrywiaeth a chadernid cymunedol. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys rhaglen gynhwysfawr o ddarpariaeth addysg a’r celfyddydau sy’n targedu pobl o bob oedran a gallu.

Bydd gennych ddealltwriaeth ddofn ac angerdd dros lansio, datblygu a thyfu Hwb y Gors, gan ddod ag egni a brwdfrydedd i’r rôl.  Bydd gennych y profiad a’r penderfyniad ar gyfer cyflwyno rhaglen addysg a’r celfyddydau i amrywiaeth o gyfranogwyr. Bydd eich rhaglen o weithdai, cyrsiau, digwyddiadau a gweithgareddau yn adlewyrchu’r angen am fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth ynghyd â’r angen am gadernid cymunedol. Byddwch yn cydweithio’n agos gyda Rheolwr Canolfan Hwb y Gors i gyflawni’r uchelgais o sicrhau y bydd y ganolfan yn hunangynhaliol o fewn 3 blynedd, ac yn Sero Net erbyn 2030.

Rolau a Chyfrifoldebau

Bydd y rôl yn golygu:

Manyleb Person

Profiad
Profiad o gyflwyno rhaglen gelfyddydau ac/neu addysg o safon uchel i ystod amrywiol o gwsmeriaid
Profiad o gyflawni tasgau a dyletswyddau gweinyddol
Profiad o weithio gyda sefydliadau yn y gymuned a dealltwriaeth dda o amgylchedd y sector elusennau
Profiad o reoli gweithwyr llawrydd, staff ac/neu wirfoddolwyr
Profiad o farchnata yn y cyfryngau digidol ac/neu ffisegol
Profiad o lunio a rheoli cyllideb
Profiad o gyrchu a chynhyrchu cyllid
 
Gwybodaeth, Sgiliau a Galluoedd
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol
Yn gallu gweithio’n gydweithredol gydag ystod eang o bobl yn cynnwys gwirfoddolwyr a phobl sy’n agored i niwed
Sgiliau TGCh ‒ yn gallu defnyddio cronfeydd data, cyfryngau cymdeithasol a chyfrannu at gynnwys y we.
Sgiliau datrys problemau da ac ymwybyddiaeth o asesiadau risg
Yn gallu bod yn flaengar a chanfod, blaenoriaethu a chynllunio gweithgareddau’n annibynnol
Ymrwymiad i herio ymddygiad gwahaniaethol neu amharchus
Yn gallu cyfrannu at bennu targedau a chynllunio datblygiad yn strategol
Yn gallu gweithio’n annibynnol ac yn gydweithredol fel rhan o dîm
Rheolaeth amser a sgiliau trefnu da
Siaradwr Cymraeg neu ymrwymiad i ddysgu.
 
Rhinweddau Personol
Rhinweddau arweinyddiaeth
Ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb a pharch at eraill
Dealltwriaeth dda o’r materion cymdeithasol ac economaidd a wynebir gan y gymuned leol
Hyblygrwydd o ran oriau gwaith i weithio gyda’r hwyr ac ar y penwythnos.
Ymrwymiad i’r Ymgyrch Ras i Sero
Ymrwymiad i ymarfer creadigol
Parodrwydd i gyflawni hyfforddiant a datblygu personol

Hyfforddiant angenrheidiol – darperir hwn gan AAT

Mae’r swyddi yn agored i’r holl ymgeiswyr sydd â’r cymwysterau priodol, heb ystyried oed, anabledd, rhywedd, priodas/partneriaeth sifil, beichiogrwydd, mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, neu gyfeiriadedd rhywiol.

Y Broses Ymgeisio:

Rhaid i geisiadau gynnwys CV a llythyr eglurhaol. Mae AAT yn fan arbennig i weithio ynddo ac mae’n bwysig ein bod yn deall yn glir pam rydych chi eisiau bod yn rhan o’r tîm a beth rydych chi’n teimlo y gallwch ei gyfrannu.  Fel rhan o’ch cais, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi disgrifiad llawn o’ch symbyliad, profiad a’ch addasrwydd ar gyfer y rôl mewn perthynas â’r disgwyliadau a esbonnir yn y fanyleb person a’r disgrifiad swydd. E-bostiwch eich cais at croeso@awel.coop. Rhowch Swyddog Addysg a’r Celfyddydau Hwb y Gors yn yllinell pwnc.

Dyddiad cau: 31 Ionawr 2025

Cyfweliadau:  10 Chwefror 2025

Ariennir y swydd hon yn rhannol gan Gronfa Pobl a Lleoedd y Loteri Genedlaethol.

Rhannu’r Dudalen