Rhannwch y cariad

Mae gwaith wedi dechrau ar fferm wynt gymunedol Cydweithfa Awel yng Nghwm Tawe. Cododd y gydweithfa gymunedol £734 mil o’i Chynnig Rhannu cyntaf cyn y Nadolig. Mae’r gydweithfa newydd ail-agor ei Chynnig Rhannu i alluogi pobl i fuddsoddi yn ystod y gwaith adeiladu, a gellir ei ddilyn yma. Mae’r gydweithfa’n anelu at godi £1,000,000 o fewn mis.

Dywedodd Mary Ann Brocklesby, un o Gyfarwyddwyr Awel, “Penodom gwmni lleol, Raymond Brown Construction, i ddechrau ar y gwaith adeiladu ym mis Mawrth ac rydym wrth ein bodd gyda’r gwelliant. Bu’n wych gweld ansawdd y gwaith.

Mae’r Cynnig Rhannu ar agor tan 15 Mehefin a rhagwelir cyfradd llog o 7%.

Ychwanegodd Dan McCallum, “Dechreuom weithio ar y prosiect gyntaf yn 1998. Mae cannoedd o bobl wedi rhoi cymnaint o amser a chreadigrwydd i’r prosiect dros y blynyddoedd. Rydym yn byw mewn ardal lle roedd glo yn y ffordd o fyw. Rydym eisiau i’r dyfodol gynnwys ynni adnewyddadwy cymunedol. Bu’n llafur cariad”.

Cyfranddaliadau ar gael o £50 ac fel cydweithfa, mae gan bob aelod hawl i un bleidlais, waeth faint o gyfranddaliadau maent yn eu perchen.

Cefnogir y prosiect gan Paul Thorburn, seren rygbi Cymru; Gillian Clarke, cyn Fardd Cenedlaethol Cymru; a Paul Allen  o Ganolfan y Dechnoleg Amgen.

Rydym wedi rhyfeddu at lefel y gefnogaeth rydym wedi’i chael gan y cyhoedd i weithredu ar gyfer newid hinsawdd a buddsoddi mewn ynni gwyrdd. Rydym eisiau i ragor o bobl ymuno â’r gydweithfa a rhannu’r cyffro o fod yn rhan o rywbeth cadarnhaol. Cofrestrwch a chanfyddwch fwy o wybodaeth ar ein gwefan www.awel.coop

Nodiadau

Bydd y prosiect yn gosod dau dyrbin Enercon ar Fynydd y Gwrhyd, 20 milltir i’r gogledd o Abertawe. Byddant yn cynhyrchu digon o bŵer glân ar gyfer tua 2500 o gartrefi.

Rhannu’r Dudalen