Ymgododd Clwb Gwnïo’r Hwb o’n prosiect Cwilt Treftadaeth a redwyd gan yr arbenigwr mewn gwnïo cynaliadwy Menna Buss o Iâr Stiwdio ac aelodau dawnus Urdd Gwehyddion, Troellwyr a Lliwyddion Tawe (a ariennir gan Gyngor y Celfyddydau Cymru). Yn ystod y prosiect gwnaeth dros 300 o gyfranogwyr gwilt anhygoel yn defnyddio deunyddiau a thechnegau carbon isel ac mae’n atgof o’r ysgol a’r ardal leol. Dathlom ei orffen gyda pharti gwych a bydd yn cael ei arddangos yn barhaol yng nghaffi Hwb y Gors pan fyddwn yn agor. Ers hynny, mae’r Clwb Gwnïo wedi bod yn cwrdd bob pythefnos i gefnogi ei gilydd ond hefyd i rannu eu sgiliau i helpu grwpiau eraill – yn cynnwys Awel Aman Tawe! – Mentyll Rhyfelwr ar gyfer ein rhaglen addysg hinsawdd (Rydym yn Rhyfelwyr Ynni), Fests Wigli* ar gyfer yr elusen leol Joseph’s Smile, gwisgoedd ar gyfer eu sioeau Nadolig cymunedol a nawr, ffedogau ar gyfer ein gwirfoddolwyr. Diolch i chi bod un yn y Clwb Gwnïo!
Cynhelir y Clwb Gwnïo ar ddydd Mawrth 1af a 3ydd bob mis yn neuadd gymunedol Cwm-gors, SA18 1PS (10-12.30). Mae’r grŵp yn cwrdd gyda’u prosiectau eu hun, ac yn mwynhau paned, sgwrs a jôc! Os ydy hyn yn apelio atoch, cysylltwch â Sandra yn sandrarobbs@hotmail.com
*Dyluniwyd y Fests Wigli gan sylfaenydd yr elusen, Katy Yeandle. Dyluniwyd y fests i helpu plant sydd angen Tiwbiau Hickman wrth gael eu trin am Ganser. Mae’r rhain yn caniatáu iddynt chwarae heb dynnu’r tiwbiau allan ac felly gorfod mynd nôl i’r ysbyty.








