Awelog: Wythnos 11 i 14


Awelog logo Wythnosau 11 i 14: Sylfeini!


Gosod y Sylfeini

Is-orsaf: Mae dyluniad ar gyfer yr is-orsaf wedi’i chymeradwyo gan Western Power Distribution (WPD). Mae’r sylfeini wedi’u cwblhau a mae’r waliau’n cynyddu. Mae sylfaen goncrid ystafell switshys y fferm wynt wedi’i harllwys. Bydd yr is-orsaf â dwy set o offer switshio (rhai ni a rhai WPD) lle mae’r trydan o’r tyrbinau wedi’i gysylltu â’r grid. Mae’r peirianwaith wedi’i archebu. Bydd yn cyrraedd ac yn cael ei osod fis Medi.

[su_custom_gallery source=”media:1760,1758,1706″ limit=”18″ width=”1000″ height=”500″ title=”always”][/su_custom_gallery]


Sylfeini tyrbinau

Mae’r tyllau wedi’u tyllu ar gyfer tyrbinau gyda ffosydd draenio i fynd ag unrhyw ddŵr i ffwrdd. Mae’n anodd dirnad maint y tyllau hyn, felly rydym wedi tynnu ychydig o luniau gyda ni ynddynt i ddangos y raddfa i chi.

[su_custom_gallery source=”media:1722,1718,1724″ limit=”18″ width=”1400″ height=”500″ title=”always”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

Mae Tyrbin 1 wedi cael ei haen sylfaenol o goncrid wedi’i arllwys. Dyma’r twll gyda Dan yn esgus bod yn dyrbin:

[su_custom_gallery source=”media:1716,” limit=”18″ width=”1400″ height=”500″ title=”always”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

Cyflymodd y diwrnod cyfan o goncridio yn y glaw i 2.5 munud. Bobol bach maent yn gweithio’n gyflym!

[su_youtube url=”https://youtu.be/VJoVSZTLS2Y”]

Uwchben y concrid, gosodwyd mat o fariau dur, a’r cylch bollt a osodir yn y canol. Mae’r llun hwn o’r cylch bollt cyn iddo fynd i’r twll:

[su_custom_gallery source=”media: 1708,” limit=”18″ width=”1000″ height=”600″ title=”always”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

Noson Agored Aelodau Awel

Cawsom noson wych ar y safle ychydig wythnosau yn ôl. Roeddem mor falch o groesawu deg aelod ar hugain i weld y gwaith adeiladu a theithio pellteroedd mawr. Roedd Owen, Jamie, Bethan a Steve i gyd ar y safle i ateb cwestiynau a hebrwng aelodau o amgylch y safle. Aethom fel confoi ar hyd y trac i’r is-orsaf, a cherdded i leoliadau y ddau dyrbin. Yna aethom yn ôl am de a choffi yn swyddfa’r safle. Byddwn yn cynnal noson agored arall ar Fehefin 29ain. Os oes gennych ddiddordeb mynychu, rhowch wybod i ni.

[su_custom_gallery source=”media:1778″ limit=”18″ width=”1400″ height=”600″ title=”always”][/su_custom_gallery]

[su_custom_gallery source=”media:1734,1736,1738,1740, 1746,1754,1756, 1704,1730,1728,1764,1748,,1700,1726″ limit=”18″ width=”1400″ height=”600″ title=”always”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

[su_custom_gallery source=”media:,,1712,1732,1750,,,,1742,1702,1744,” limit=”18″ width=”180″ height=”300″ title=”always”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]


Cynnig Cyfran:

Rydym yn awr wedi codi swm anhygoel sef £1.186 miliwn drwy gyfrannau cydweithredol. Mae dogfen y gyfran newydd ar y wefan yma.

Trydydd cyfarfod Cynnydd:

Cyfarfod da, mae popeth yn digwydd yn ôl yr amserlen. Ymysg pethau eraill a drafodwyd oedd taith brawf sydd i’w chynnal ar y 27ain o Fehefin. Mae hyn i brofi llwybr fydd y tyrbinau yn ei gymryd o’r dociau yn Abertawe i fyny i’r safle. Bydd lori estynadwy a heddlu yn hebrwng yn gwneud y daith, gan ffilmio’r weithred gyfan a gwneud nodiadau o unrhyw gelfi stryd fydd angen eu symud. Ni fydd y ffyrdd ar gau.

O’r chwith i’r dde: Darren (Power Systems, contractwyr trydanol), Andreas (Enercon), Alastair (Enercon), Jamie (Raymond Brown), Jaime (Quad Consult), Steve (Raymond Brown), Jamie (Wind Prospect), a Charlotte (Awel).

[su_custom_gallery source=”media:1766,,” limit=”18″ width=”1000″ height=”500″ title=”always”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]


Conrad Trevelyan 

Rydym wedi derbyn newyddion trist iawn fod Conrad Trevelyan wedi’n gadael ni. Ni oedd y prosiect cyntaf i Con weithio arno pan ymunodd â Dulas yn 2003-4, a ni oedd yr olaf. Yn 2003, gwnaeth ddyluniad y safle technegol a arweiniodd at y lleoliad tyrbin a adeiladir yn awr. Goruchwyliodd y newidiadau bychain olaf i’n Asesiad Cynnyrch Gwynt ychydig o fisoedd yn ôl. Ni fyddai ein cynllun yn cael ei adeiladu nawr oni bai am sgiliau Con. Yr un mor bwysig oedd y cymorth ac anogaeth parhaus a roddodd i ni dros y blynyddoedd pan frwydrom i gael caniatâd cynllunio. Rhannodd ein dicter am y ffordd yr oedd ein caniatâd cynllunio yn cael ei wrthod dro ar ôl tro. Ond cynorthwyodd i’n hysbrydoli y byddem yn cyrraedd y nod yn y pen draw. Con oedd un o’r cyntaf i ymuno â Co-op Awel. Mae ein meddyliau gyda’i gydweithwyr yn Nulas a’i deulu. Roedd yn fraint ei adnabod.

[su_custom_gallery source=”media:1780,” limit=”18″ width=”300″ height=”450″ title=”always”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]


Ymweliadau Aelodau Awel

O dro i dro mae aelodau yn ein hysbysu eu bod wedi bod i fyny at y safle i gael golwg ar yr adeiladwaith. Mae rhwydd hynt i chi fynd i fyny a chael golwg. Os gallwch, anfonwch lun atom. Dyma ymweliad Ian, un o aelodau Awel, gyda’i chwaer yng nghyfraith a neiaint, yn mynd ar hyd y trac tuag at safle’r tyrbinau. Diolch Ian!

[su_custom_gallery source=”media: 1829″ limit=”45″ width=”1000″ height=”600″ title=”always”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

[su_custom_gallery source=”media: 931″ limit=”18″ width=”1300″ height=”350″ title=”never”] Bethan. Site Engineer.[/su_custom_gallery]

 

Rhannu’r Dudalen