Gohebydd economeg BBC Cymru, Sarah Dickens, cyfarfod â rhai o’n haelodau ar y safle. Roedd Sarah yn edrych ar fuddsoddiadau eraill yn awr bod Banc Lloegr wedi torri cyfraddau llog. Ceir adran ar Radio Cymru Post Cyntaf am gydweithfeydd ynni cymunedol ymagyda cyfweliad gyda Neil Lewis o Ynni Sir Gar. Mae Neil wedi rhoi llawer o help i ni dros y blynyddoedd – mae’n ar 22.55. Adrodd ar wefan y BBC yma a chyfweliadau gydag aelodau ein yma – gwibio ymlaen at yr adran gyda ni sy’n dechrau am 22.11 munud i mewn i’r rhaglen. Mae dal cyfle i chi ac ymuno â ni.
Rydym ni’n cynnal ymweliadau â’r safle dydd Iau 8 Medi am 2pm a dydd Mawrth 20 Medi am 2pm. Mae lle i 10 o bobl ar bob ymweliad felly anfonwch e-bost iinfo@awelamantawe.co.uk i gadw lle. Byddwn ni’n cyfarfod yn y swyddfeydd ar y safle, oddi ar yr A474, 3 milltir i’r gogledd o Bontardawe.
Byddwn ni’n gyrru 4 cilometr i fyny’r trac i weld sylfeini’r tyrbin a’r isbwerdy. Bydd ein peirianwyr o gwmni adeiladu Raymond Brown ar y safle a bydd digon o amser i ofyn cwestiynau. Bydd paned o de a phice ar y maen hefyd.
Gwyliwch ein fideo newydd Gêm codi ffyn – egni wynt – 4 diwrnod o waith mewn 3 munud! Gallwch ddarllen am hynt y gwaith adeiladu a gweld lluniau yn Awelog
Gobeithio eich gweld chi cyn bo hir