Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn cefnogi ynni cymunedol

Mae Awel Co-op yn croesawu penderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i beidio â chodi ardrethi busnes ar y fferm wynt gymunedol tan 2019.

Meddai Dan McCallum, Cyfarwyddwr Awel Co-op, “Rydym yn wir ddiolchgar am y gefnogaeth hon. Mae’r Cyngor wedi dangos cefnogaeth gadarn i’r sector ynni cymunedol yn lleol a nhw yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i roi gostyngiad o 100% yn yr ardrethi. Mae’r arbediad hwn yn werth £68,000 i’n prosiect felly mae’n un sylweddol iawn. Mae’n arbennig o bwysig i ni yn ystod y blynyddoedd cynnar hyn ar ein fferm wynt gan ei fod o gymorth mawr gyda’n llif arian. Mae’r cyngor wedi dangos yn glir ei fod eisiau cefnogi’r sector gwirfoddol yn y fwrdeistref, ac rydym yn wir werthfawrogi hyn ar adeg pan fod y cyngor ei hunan yn gorfod gwneud toriadau cyllid anodd.

Rydym yn ystyried ffyrdd o gynnig cyfranddaliadau i sefydliadau yn y gymuned leol yn sgil yr arbediad hwn.

Mae Castell-nedd Port Talbot wedi dangos synnwyr busnes craff oherwydd, wrth wneud hyn, bydd yn gallu cadw mwy o gyllid yn yr economi leol. Trwy roddi cyfranddaliadau i grwpiau cymunedol lleol, gallwn ddefnyddio’r arbediad i ailariannu ein benthyciad gan Lywodraeth Cymru sydd ar gyfradd llog o 7.5%. Mae ein cyfranddaliadau cwmni cydweithredol yn cynnig cyfradd llog o 5%. Bydd hyn yn fuddiol iawn i grwpiau lleol a bydd yn cadw arian yn lleol yn hytrach na thalu mwy o log i Lywodraeth Cymru. Gellid gweld arbediad cyffredinol a budd economaidd lleol o £450k dros oes y prosiect.”

Comisiynodd Awel Co-op ei fferm wynt 4.7MW yn Ionawr 2017. Mae’r prosiect wedi rhagori ar ei dargedau, gan gynhyrchu 11,594,700 kwh o drydan – digon i gyflenwi tua 2500 o gartrefi. Mae wedi codi dros £2.5m drwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol – y swm uchaf erioed yng Nghymru, ac mae’n ceisio codi £3m fel y bydd y prosiect yn perthyn i gymaint o bobl a sefydliadau â phosibl yng Nghymru. Gwerth cyfalaf y fferm wynt yw £8.25m ac mae’n cael ei chydariannu drwy fenthyciad o £5.25m gan Triodos.

Mae ein cynnig cyfranddaliadau ar agor o hyd ar www.awel.coop felly beth am ymuno â ni!

Share this page