Ysgolion Solar yn sparduno dyfodol ynni adnewyddadwy yn Sir Benfro

Nid meddyliau ifanc yn unig sy’n cael eu sbarduno mewn sawl ysgol yn Sir Benfro, diolch i bartneriaeth arloesol â chwmni cydweithredol ynni gwyrdd.

Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymuno â’r sefydliad cymunedol, Egni Co‑op, ar gyfer prosiect i roi paneli solar ar doeau ysgolion.

Lamphey Primary

Mae’r prosiect yn lleihau costau ynni ysgolion, yn helpu’r amgylchedd ac yn arwain yr adferiad gwyrdd ar ôl COVID-19.

Mae Egni Co-op yn sefydliad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau ffotofoltaidd solar yng Nghymru.

Yn Sir Benfro, mae Egni Co-op wedi gosod paneli solar ffotofoltaidd mewn chwe ysgol, sef: Ysgol Gynradd Gelli Aur (50kW), Ysgol Gynradd Llandyfái (10kW), Ysgol Gynradd Prendergast (30kW), Ysgol Gynradd Bro Ingli (25kW), Ysgol y Frenni (30kW) ac Ysgol Gynradd Saundersfoot (25kW).

Golden Grove

Mae cyfanswm amcangyfrifedig blynyddol yr ynni a fydd yn cael ei greu yn ddigon i fodloni’r galw ar gyfer tua 45 o gartrefi, ar gyfartaledd.

Mae Egni yn cynnal ac yn cefnogi’r systemau, sy’n bodloni manyleb gymeradwy’r Cyngor, am 20 mlynedd.  Nid oes unrhyw dâl yn cael ei chodi ar yr ysgolion na’r Cyngor am eu gosod.

Dywedodd Rheolwr Ynni a Datblygu Cynaliadwy’r Cyngor, Steve Keating: “Rydym wrth ein bodd â gofal ac ansawdd y gosodiadau gan Egni Co-op a’i osodwyr, ICE Solar.

Ysgol Bro Ingli

“Cafodd y paneli solar eu gosod yn ystod cyfnod heriol iawn o ran effaith COVID-19, ac fe’i cwblhawyd cyn i’r ysgolion ailagor.

“Er gwaethaf y cyfyngiadau sydd ar waith oherwydd COVID, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i osod ynni adnewyddadwy er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, ac ategu targed Llywodraeth Cymru i fwy o’r capasiti trydan adnewyddadwy yng Nghymru fod dan berchenogaeth leol.”

Dywedodd Swyddog Datblygu Egni Co-op, Alex Ferraro: “Gyda’i gilydd, bydd y safleoedd hyn yn atal tua 45 tunnell o allyriadau CO2 bob blwyddyn ac yn cyfrannu at dargedau Sir Benfro yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd.

“Cafodd y paneli eu hariannu gan aelodau’r cwmni cydweithredol, felly roeddent yn rhad ac am ddim i’r ysgolion.

“Rydym yn codi tâl am y trydan sy’n cael ei ddarparu gan y systemau ffotofoltaidd ar ostyngiad o 20% o gymharu â’r prif gyflenwr trydan.

“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at gydweithio â’r ysgolion ar agweddau addysgol, a gweld a allant wneud mwy o welliannau i arbed ynni.

“Roedd staff yr ysgolion yn wych ac fe wnaethon nhw ein helpu ni a’n gosodwyr, ICE Solar, i osod y paneli solar yn ddiogel ac yn brydlon.”

Ychwanegodd Alex fod Egni Co-op yn rhoi gwerth £500 o gyfranddaliadau am ddim i bob ysgol, er mwyn i’r plant allu dysgu mwy am sut mae’r model cydweithredol yn gweithio i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.

Mae’r penaethiaid wedi galw’r cynllun yn llwyddiant.

Disgrifiodd pennaeth Ysgol y Gelli Aur, Alun Williams, y model yn ‘gynllun lle mae pawb ar eu hennill’.

Ychwanegodd: “Mae ysgolion yn elwa ar gael system ynni adnewyddadwy heb orfod codi’r cyfalaf eu hunain na chan y Cyngor.  Mae’n braf gwybod bod yr incwm y mae’r system yn ei greu yn mynd yn ôl i gwmni cydweithredol cymunedol i gefnogi addysg ar ddefnyddio ynni a newid yn yr hinsawdd ymhellach, yn ogystal â datblygiadau pellach mewn ynni adnewyddadwy.”

Saundersfoot Primary

Dywedodd Enfys Howells, pennaeth Ysgol Bro Ingli yn Nhrefdraeth, ei bod yn edrych ymlaen at y disgyblion yn dysgu sut mae’r paneli y gallant eu gweld o’r buarth yn gweithio i wneud eu dyfodol yn fwy cynaliadwy.

Ychwanegodd Mrs Howells: “Ysgol gynradd fach yw Ysgol Bro Ingli, ond bu gennym gostau ynni cymharol uchel erioed.  Mae cynnig Egni Co-op o system ffotofoltaidd sy’n helpu i ostwng y biliau hyn, gan ddarparu cyfran o drydan yr ysgol yn uniongyrchol o ffynhonnell ynni adnewyddadwy i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, yn wych.  Rydym yn falch iawn bod y Cyngor wedi cefnogi’r prosiect.”

Mae Cyngor Sir Penfro ac Egni Co-op yn gobeithio cydweithio â’i gilydd eto yn y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Cris Tomos, Aelod Cabinet y Cyngor dros yr Amgylchedd, Diogelu’r Cyhoedd a’r Iaith Gymraeg: “Rwyf wrth fy modd yn gweld y bartneriaeth hon yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’n hysgolion drwy leihau eu costau ynni ac er budd yr amgylchedd ehangach.

Prendergast Primary

“Mae rhoi paneli solar ar ysgolion yn golygu bod ein disgyblion yn dysgu sut gall pob un ohonom gyfrannu at leihau’r defnydd o ynni a sicrhau bod y dyfodol – eu dyfodol nhw – yn wyrddach ac yn fwy cynaliadwy.”

Meddai Jim Cardy, Uwch Reolwr Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru: “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o grwpiau ynni cymunedol yn cydweithio’n agos gyda phartner sy’n Awdurdod Lleol yng Nghymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”

Ynglŷn ag Egni Co-op

Mae Egni Co-op yn sefydliad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd. Ein prif sbardunau yw mynd i’r afael â newid hinsawdd ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni. www.egni.coop

Cyngor Sir Penfro

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Lee Day, Swyddog Cyfathrebu ar 01437 775855.  Mae’r datganiadau’r Cyngor i’r wasg ar gael ar wefan yr Awdurdod hefyd, sef: http://www.pembrokeshire.gov.uk

Ynglŷn â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy. Mae’r gwasanaeth ynni’n helpu gyda chynllunio ariannol a chyllid, er enghraifft grantiau a benthyciadau di-log.

E-bost: enquiries@energyservice.wales

Twitter: @_energyservice | @_gwasanaethynni

Rhannu’r Dudalen