Ysgolion Abertawe yn gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd

Mae Egni Co-op wedi cyhoeddi bod paneli solar wedi cael eu gosod ar ddwy ysgol arall yn Abertawe – Ysgolion Cynradd Pentrechwyth a Chwm Glas.

Mae dros hanner megawat o solar ar doeon wedi cael ei osod nawr ar ddeuddeg ysgol yn Abertawe, yn cynnwys Ysgolion Uwchradd Pentrehafod, Tre-gŵyr, Treforys, Cefn Hengoed, Penyrheol a Phontarddulais. Mae’r safleoedd solar ar ysgolion cynradd yn cynnwys Sea View, Clwyd, Glyncollen a Portmead.

Ysgol Gynradd Pentrechwyth

Mae Egni hefyd wedi sefydlu rhaglen addysg uchelgeisiol mewn partneriaeth ag EnergySparks a Rhaglen Llysgenhadon STEM. Mae’r porth EnergySparks yn prosesu data ar y defnydd o drydan a nwy go iawn, ynghyd â’r cynhyrchiant solar, ac mae’n galluogi disgyblion a staff i wneud gwelliannau ynni, y gallant eu mesur wedyn yn y data. Ar hyn o bryd, mae ysgolion Abertawe yn cofrestru gydag EnergySparks a gallwch weld data Cefn Hengoed yma.

Ein gosodwyr, Ice Solar

Meddai Rosie Gillam, cyd-gyfarwyddwr Egni “Mae hyn yn dangos beth ellir ei gyflawni trwy gydweithredu. Mae gennym 88 o safleoedd ar draws Cymru erbyn hyn ac maen nhw’n arbed tua £108k y flwyddyn ar eu costau trydan – ac yn atal allyrru dros 1,000 o dunellau o CO2. Mae disgyblion a staff Abertawe wedi bod mor gefnogol a brwdfrydig wrth helpu i wireddu’r prosiectau hyn mewn cyfnod anodd. Rydym hefyd wedi cael ymateb anhygoel i’n Cynnig Cyfranddaliadau Cwmni Cydweithredol sydd wedi helpu i ariannu’r gosodiadau hyn. Rydyn ni bron â chyrraedd ein targed o £4m. Hoffem annog cymaint o bobl â phosibl ar draws y DU i ymuno â ni a’n helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd trwy bŵer yr haul. Gall unigolion, grwpiau cymunedol a chwmnïau fuddsoddi cyn lleied â £50. I gael gwybodaeth, ewch i www.egni.coop

Ysgol Gynradd Cwm Glas

Meddai Andrea Lewis, dirprwy arweinydd ar y cyd y cyngor a’r aelod cabinet dros gartrefi, ynni a thrawsnewid gwasanaethau: “Mae hon yn ffordd gadarnhaol o groesawu’r flwyddyn newydd. Rydym wrth ein bodd gyda’r cynnydd hwn mewn pŵer gwyrdd glân yn ein hysgolion yn Abertawe.

“Mae’r cyngor newydd gyhoeddi ei Siarter ar Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd i atgoffa’r cyhoedd mewn ffordd weladwy ein bod yn anelu at ddod yn garbon sero net erbyn 2030 – ac yn ddinas sero net erbyn 2050. Hoffwn ddiolch i bawb sydd ynghlwm am weithredu’n gyflym mewn ymateb i’n datganiad ar yr argyfwng hinsawdd.”

Ysgol Gyfun Cefn Hengoed

Dywedodd Jen Rayner, aelod cabinet y cyngor dros wella addysg, dysgu a sgiliau: “Ariannwyd cost y gosodiadau solar hyn gan Egni Co-op a bydd yr holl wargedion yn cael eu gwario ar brosiectau addysg, felly mae’n ddull partneriaeth da iawn i’r cyngor.

“Mae’r cyngor yn benderfynol o arwain ar fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a thrwy weithio gydag Egni Co-op, rydym eisiau cynyddu faint o ynni adnewyddadwy a osodir ar ein hadeiladau.”

Ysgol Gyfun Pentrehafod

Ynglŷn ag Egni

Mae Egni wedi gosod solar ar doeon ar ysgolion, adeiladau cymunedol a busnesau ar draws Cymru.

Bellach, mae Egni wedi gosod 4.2MWp o solar ar doeon ar 88 o safleoedd yng Nghymru. Mae’r holl safleoedd yn cael eu cefnogi gan y Tariff Bwydo i Mewn. Mae Egni yn ailariannu ein benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru gyda chyfranddaliadau cwmni cydweithredol gan fod y Banc yn codi llog o 5% tra bod aelodau’r cwmni cydweithredol yn buddsoddi ar log o 4%. Mae hyn yn golygu bod mwy o warged i’w ddefnyddio ar brosiectau addysg ar y newid yn yr hinsawdd yn ysgolion Cymru.

Dyma ffilm ddiweddar a wnaed gan yr enillydd dau BAFTA Cymru, Mike Harrison, ynglŷn â’r prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd https://youtu.be/ZC80dcRmla0

Mae’r tîm y tu ôl i Egni wedi sefydlu’r fenter arobryn, Awel Co-op, hefyd, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad gwerth £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.

Enillodd Egni Co-op y wobr Prosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol mewn seremoni a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, a chydnabuwyd Awel Aman Tawe yn Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU

Am ragor o fanylion am Egni, cysylltwch â Dan McCallum ar 07590 848818

Ynglŷn â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy, ac mae wedi cefnogi Egni. Mae’r gwasanaeth ynni’n helpu gyda chynllunio ariannol a chyllid, er enghraifft grantiau a benthyciadau di-log.

E-bost: enquiries@energyservice.wales

Twitter: @_energyservice | @_gwasanaethynni

Rhannu’r Dudalen