Mae dwy ysgol arall yn Abertawe wedi cyflawni prosiect gosodiadau paneli solar mawr gydag Egni Co-op. Gosodwyd system 100kW ar Ysgol Gyfun Treforys ychydig cyn y Nadolig, a chwblhawyd un arall 100kW ar Ysgol Gyfun Cefn Hengoed yn ystod wythnos gyntaf Ionawr.
Meddai Andrea Lewis, dirprwy arweinydd ar y cyd y cyngor a’r aelod cabinet dros gartrefi, ynni a thrawsnewid gwasanaethau: “Mae hon yn ffordd gadarnhaol o groesawu’r flwyddyn newydd. Rydym wrth ein bodd gyda’r cynnydd hwn mewn pŵer gwyrdd glân yn ein hysgolion yn Abertawe.
“Mae’r cyngor newydd gyhoeddi ei Siarter ar Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd i atgoffa’r cyhoedd mewn ffordd weladwy ein bod yn anelu at ddod yn garbon sero net erbyn 2030 – ac yn ddinas sero net erbyn 2050. Hoffwn ddiolch i bawb sydd ynghlwm am weithredu’n gyflym mewn ymateb i’n datganiad ar yr argyfwng hinsawdd.”
Dywedodd Jen Rayner, aelod cabinet y cyngor dros wella addysg, dysgu a sgiliau: “Ariannwyd cost y gosodiadau solar hyn gan Egni Co-op a bydd yr holl wargedion yn cael eu gwario ar brosiectau addysg, felly mae’n ddull partneriaeth da iawn i’r cyngor.
“Mae’r cyngor yn benderfynol o arwain ar fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, a thrwy weithio gydag Egni Co-op, rydym eisiau cynyddu faint o ynni adnewyddadwy a osodir ar ein hadeiladau.”
Bellach mae Egni wedi gosod mwy na 500 kW o solar ar doeon ar ysgolion Abertawe – yn Ysgolion Cyfun Pentrehafod, Tre-gŵyr, Pontarddulais, Treforys a Chefn Hengoed ac Ysgolion Cynradd Portmead a Glyncollen. Cyngor Abertawe oedd y cyntaf yng Nghymru i ffurfio partneriaeth gyda chwmni cydweithredol i osod 360kW o solar drwy’r Swansea Community Energy Co-op (SCEES) https://www.swanseacommunityenergy.org.uk. Mae Egni wedi dilyn ôl eu traed ac yn awr mae ynni cydweithredol yn anelu at osod mwy na 1000kW o solar erbyn y gwanwyn.
Meddai Rosie Gillam, cyd-Gyfarwyddwr Egni: “Hoffem roi diolch i staff yr ysgolion a’r cyngor sydd wedi gwneud y gosodiadau hyn yn bosibl mewn amgylchiadau mor anodd, a hefyd i’n gosodwr, Ice Solar, sydd wedi gweithio’n galed. Rydym yn falch iawn bod ysgolion eraill yn Abertawe yn camu ymlaen, ac yn awyddus i gymryd rhan yn y rhaglen.”
Mae Cyngor Abertawe yn gweithio mewn cydweithrediad ag Egni Co-op a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru i helpu’r awdurdod gyda’i nod o ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Bydd y rhan fwyaf o’r trydan a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio yn yr ysgolion, gan dorri’r allyriadau carbon o’r ysgolion o tua 3,200 t/CO2e dros yr 20 mlynedd nesaf.
Mae Egni Co-op yn sefydliad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru. Ariennir y paneli solar yn Abertawe gan gynnig cyfranddaliadau cwmni cydweithredol parhaus Egni sydd wedi codi £2.2m hyd yma ac sydd wedi codi ei darged i £3m yn ddiweddar. Cefnogwyd y rhaglen gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a ddarparodd amser rheolwr datblygu penodedig i’r Cyngor.
Meddai Jim Cardy, uwch reolwr Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru: “Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o fenter gymdeithasol yn gweithio’n agos gyda phartner awdurdod lleol yng Nghymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Rydym yn falch o gael helpu Cyngor Abertawe gyda chymorth technegol a chyllid grant i symud y rhaglen osodiadau hon yn ei blaen.”
Egni Coop
Mae Egni Co-op yn sefydliad cymunedol sy’n ariannu ac yn rheoli gosodiadau PV yng Nghymru. Cafodd ei sefydlu gan Awel Aman Tawe (AAT), elusen ynni cymunedol sydd wedi bod yn gweithredu ers 20 mlynedd. Ein prif sbardunau yw mynd i’r afael â newid hinsawdd ac ennyn diddordeb pobl mewn ynni.
Dyma ffilm ddiweddar a wnaed gan yr enillydd dau BAFTA Cymru, Mike Harrison, ynglŷn â’r prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd https://youtu.be/ZC80dcRmla0
Bellach mae Egni wedi codi £2 filiwn drwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol gyda dros 1,000 o bobl a sefydliadau. Derbyniom fenthyciad o £2.12m gan Fanc Datblygu Cymru hefyd i ariannu’r gosodiadau sydd yn mynd ymlaen. Hon yw’r rhaglen fwyaf o osod solar ar doeon yn hanes Cymru www.egni.coop
Mae Egni wedi gosod bron 4MWp ar 83 o safleoedd yng Nghymru, ac mae hyn yn:
- • Arbed £105k y flwyddyn mewn costau trydan
- • Lleihau allyriadau carbon o 1,700 tunnell y flwyddyn
Mae’r tîm y tu ôl i Egni wedi sefydlu’r fenter arobryn, Awel Co-op, hefyd, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad gwerth £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.
Enillodd Egni’r wobr am Brosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol a noddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2019 (https://egni.co-op/egni-co-op-earns-a-place-in-the-sun-at-wales-sustainability-academy-awards/) a chafodd Awel Aman Tawe ei gydnabod fel Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU – https://www.socialenterprise.org.uk/winners-of-the-uk-social-enterprise-awards-2019/
Am ragor o fanylion am Egni, cysylltwch â Dan McCallum ar 07590 848818
Ynglŷn â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru
Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy, ac mae wedi rhoi cymorth i Egni. Mae’r gwasanaeth ynni’n helpu gyda chynllunio ariannol a chyllid, er enghraifft grantiau a benthyciadau di-log.
E-bost: enquiries@energyservice.wales
Twitter: @_energyservice | @_gwasanaethynni