Mae Egni Coop wedi gorffen eu gosodiad cyntaf ar ysgol ym Mlaenau’r Cymoedd. Mae 60KW o ynni’r haul wedi’i osod yn Ysgol Sefydledig Brynmawr ym Mlaenau Gwent, un o’r gosodiadau ar do mwyaf yn y sir.
Meddai Pennaeth yr Ysgol, Gerard McNamara, “Mae’r ysgol yn cymryd ei chyfrifoldebau amgylcheddol o ddifrif. Mae’r disgyblion yn frwd dros leihau effaith amgylcheddol yr ysgol. Rydym yn falch iawn bod yr ysgol wedi llwyddo i leihau ei hôl-troed carbon a gweithio mewn partneriaeth gyda Chwmni Cydweithredol Cymreig i osod ynni’r haul, ac felly lleihau ein heffaith amgylcheddol. Rydym yn deall y bydd y paneli solar yn cynhyrchu dros 50,000kWh y flwyddyn – a bydd hyn yn golygu arbediad carbon o 18 tunnell o CO2.
Mae diddordeb mawr gennym hefyd mewn dadansoddi’r data cynhyrchu ar y we-borth solar yn ein gwersi, ac asesu sut mae’r tywydd yn effeithio ar faint o ynni mae’r paneli solar yn ei gynhyrchu.
Bydd yr ysgol yn derbyn £500 o gyfranddaliadau Co-op am ddim hefyd, gan ennill ffrwd incwm i’r ysgol a allwn ei defnyddio yn ein gwaith ar addysg entrepreneuriaeth gyda’r disgyblion. Mae’n gyfle gwych i ddeall sut mae model busnes y Co-op yn gweithio ac i ddisgyblion gael mynd i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Egni a digwyddiadau eraill os ydynt eisiau, gan gymryd rhan yn llywodraethu Co-op. Bydd yr ysgol hefyd yn elwa ar gost yn is na’r farchnad am bob uned o ynni a ddefnyddir o’r ynni adnewyddadwy yn hytrach na ffynonellau nad ydynt yn adnewyddadwy.”
Sylwodd Cyfarwyddwr Egni, Rosie Gillam, “Hoffem ddiolch i’r disgyblion am eu brwdfrydedd drwy’r holl brosiect ac i’r staff am hwyluso’r gosodiad. Mae ein gosodwyr Ice Power wedi gwneud ymdrech anferth i orffen y gwaith dros wyliau’r hanner tymor, mewn amodau tywydd erchyll dros yr wythnos ddiwethaf yn ystod Stormydd Ciara a Dennis.
“Rydym yn datblygu amrywiaeth o ddeunyddiau addysgol ac yn edrych ymlaen at ddod nôl i Ysgol Sefydledig Brynmawr i roi gwersi i’r disgyblion, i esbonio sut mae’r dechnoleg yn gweithio, ac i ysbrydoli rhai o beirianwyr solar y dyfodol, gobeithio!”
Ychwanegodd Dan McCallum, Cyfarwyddwr Egni, “Mae’r holl brosiectau hyn yn dangos sut gall Cymru gwrdd â’i thargedau newid hinsawdd ac â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol sydd yn ddarn symbylol o ddeddfwriaeth. Rydym wedi rhyfeddu wrth y lefel o gefnogaeth i’n Cynnig Cyfranddaliadau sydd bellach wedi cyrraedd £1.47m, yn agos iawn i’n targed o £1.5m. Gallwch ymuno â ni yma www.egni.coop ”