Ysgol Bro Ingli yn disgleirio ar frig y bwrdd sgorio yng Nghymru am weithredu ar yr hinsawdd

Mae Ysgol Bro Ingli yn Sir Benfro ar frig y bwrdd sgorio yng Nghymru am leihau’r allyriadau carbon yn eu hysgol. Mae’r ysgol wedi cydweithio gydag Egni Co-op i osod 25 kW o baneli solar ac mae hyn wedi lleihau eu defnydd blynyddol o drydan o’r grid o 48%. Yn ogystal, maen nhw hefyd wedi cynnal gweithgareddau addysgol – yn cynnwys sefydlu pwyllgor Eco/ynni, diffodd offer trydanol ac archwilio pŵer dŵr. Gallwch weld eu trosolwg ynni yma ar wefan Energy Sparks: https://energysparks.uk/schools/ysgol-bro-ingli

Cyngor Dinesydd Da

Esboniodd Jen James, Swyddog Addysg Awel Aman Tawe, “Sefydlom Egni Co-op ac erbyn heddiw, hwn yw’r cwmni cydweithredol solar ar doeon mwyaf yn y DU. Rydyn ni nawr yn gweithio mewn partneriaeth gydag elusen arall, Energy Sparks, Ysgolion Cynaliadwy Sir Benfro a Rhaglen Llysgenhadon STEM yng Nghymru i gyflawni mwy o arbedion ynni. Mae gan Energy Sparks blatfform addysgol gwych sy’n mesur y defnydd cyfredol o drydan a nwy a’r cynhyrchiant solar yn yr ysgol. Bro Ingli yw’r ysgol fwyaf dynamig rydw i wedi gweithio gyda hi hyd yma. Mae Bro Ingli wedi lleihau ei hallyriadau carbon blynyddol o 4 tunnell y flwyddyn yn barod ac mae ei hallyriadau carbon yn sylweddol is nag mewn ysgolion nodweddiadol o faint tebyg – mae hwn yn gyflawniad gwych gan un o’n hysgolion lleiaf. Mae wedi rhagori ar bob disgwyliad ac wedi gosod y nod ar gyfer ysgolion eraill yng Nghymru!”

Paneli Solar yn Ysgol Bro Ingli
Paneli Solar yn Ysgol Bro Ingli

Meddai’r plant yng Nghlwb Eco Bro Ingli, Y Cyngor Dinesydd Da, “Mae defnyddio Energy Sparks wedi ein symbylu i wella ein defnydd o ynni ac wedi’n dysgu pa mor bwysig yw ceisio lleihau’r newid yn yr hinsawdd drwy chwarae ein rhan!”. Ychwanegodd eu hathro, Mr Davies, “Drwy’r ysgol i gyd, mae’r plant yn dod yn ddinasyddion sy’n fwyfwy deallus yn foesegol.”

Cyngor Dinesydd Da

Mae Awel Aman Tawe yn edrych ymlaen at weithio gydag Ysgolion Cynaliadwy Sir Benfro i redeg prosiect o’r enw ‘Rhyfelwyr Ynni Ydyn Ni’ ar gyfer myfyrwyr blwyddyn 5/6 yn Ysgolion Sir Benfro yn ystod tymor yr Hydref. Meddai Jen “Mae mor bwysig ein bod yn addysgu pobl ifanc am y mater hwn, gan fod lleihau ein hallyriadau carbon yn hanfodol wrth ymladd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Mae’n rhaid i ni weithredu nawr i ddiogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n falch iawn o fod yn rhan o sefydliad ynni cymunedol, sy’n gweithio gydag Energy Sparks ac Ysgolion Cynaliadwy Sir Benfro i rymuso pobl ifanc gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau i wneud newidiadau go iawn yn eu hysgolion a’u cymunedau. Drwy ddefnyddio pobl go iawn, profiadau go iawn, a data go iawn, ein nod yw sicrhau bod y disgyblion yn mynd ati i arwain yr ymgyrch yn erbyn newid hinsawdd yn eu hysgol a’u cymuned leol.”

Mae Awel Aman Tawe yn falch iawn o gael gweithio gyda 44 o ysgolion yn Ne Cymru lle mae wedi gosod paneli solar ar ysgolion trwy Egni Co-op. Bydd ei raglen addysg yn cefnogi athrawon a dysgwyr wrth i’r Cwricwlwm i Gymru 2022 arloesol gael ei gyflwyno, drwy ddarparu hyfforddiant, adnoddau a phrosiectau sy’n ymgysylltu â’r Pedwar Diben a fydd yn sail i waith athrawon wrth iddynt gynllunio’u cwricwlwm newydd. Yn y pen draw, bydd hyn yn galluogi disgyblion i fod yn fedrus ac uchelgeisiol, yn fentrus a chreadigol, yn foesegol a gwybodus, ac yn iach a hyderus.

Ynglŷn ag Awel Aman Tawe ac Egni  

Mae Awel Aman Tawe yn elusen sydd wedi sefydlu dau gwmni cydweithredol, Awel Co-op ac Egni Co-op. Mae Egni wedi gosod 4.3 MWp o solar ar doeon ar 88 o ysgolion, adeiladau cymunedol a busnesau ar draws Cymru, sy’n golygu mai hwn yw’r cwmni cydweithredol solar ar doeon mwyaf yn y DU www.egni.coop

Cefnogir yr holl safleoedd gan y Tariff Bwydo i Mewn. Mae Egni yn ailariannu benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru gyda chyfranddaliadau cwmni cydweithredol gan fod y Banc yn codi llog o 5% tra bod aelodau’r cwmni cydweithredol yn buddsoddi ar log o 4%. Mae hyn yn golygu bod mwy o warged i’w ddefnyddio ar brosiectau addysg ar y newid yn yr hinsawdd yn ysgolion Cymru.

Dyma ffilm ddiweddar a wnaed gan yr enillydd dau BAFTA Cymru, Mike Harrison, ynglŷn â’r prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd https://youtu.be/ZC80dcRmla0

Mae’r tîm y tu ôl i Egni wedi sefydlu’r fenter arobryn, Awel Co-op, hefyd, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad gwerth £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.

Yn 2019, Enillodd Egni Co-op y wobr Prosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol mewn seremoni a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, a chydnabuwyd Awel Aman Tawe yn Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU.

Ynglŷn ag Energy Sparks 

Mae Energy Sparks yn offeryn dadansoddi ynni ac yn rhaglen addysg ynni ar-lein sy’n benodol i ysgolion, ac sy’n darparu cymorth helaeth i athrawon, disgyblion ac eco-dimau wrth iddynt ddysgu am ynni a’r newid yn yr hinsawdd yng nghyd-destun eu hysgol nhw. https://energysparks.uk/

Ynglŷn ag Ysgolion Cynaliadwy Sir Benfro 

Mae Ysgolion Cynaliadwy yn gynllun dyfarnu sefydledig sy’n unigryw i Sir Benfro, ac sy’n gweithio gydag ysgolion i gynnwys cynaliadwyedd a dysgu byd-eang fel rhan annatod o addysgu, dysgu a rheolaeth gynaliadwy’r ysgol, yn unol â’r blaenoriaethau cenedlaethol.

Ynglŷn â Rhaglen Llysgenhadon STEM 

Mae Llysgenhadon STEM yn rhaglen yn y DU sy’n cefnogi dysgu trwy helpu pobl ifanc i ddeall cymwysiadau ymarferol yr hyn maen nhw’n ei ddysgu; mae’n arddangos gwahanol rolau a llwybrau i fyd diwydiant ac yn codi ymwybyddiaeth o sgiliau pwysig yn y gweithle trwy helpu pobl ifanc i gwrdd ag amrywiaeth eang o bobl sy’n ddelfrydau ymddwyn ysbrydoledig, a’u hannog i feddwl am eu dyfodol. https://www.stem.org.uk/stem-ambassadors Rheolir y rhaglen STEM gan Gweld Gwyddoniaeth yng Nghymru https://www.see-science.co.uk/stem-ambassador-hub-parent/stem-ambassadors/

Rhannu’r Dudalen