Wrth i ni ddechrau trydydd tymor ein prosiect “Ymgyrchwyr Ynni Ydyn Ni” gydag ysgolion cynradd ac uwchradd yn Sir Benfro, Abertawe a Chasnewydd, y cyfan y gallwn ei ddweud yw, yng ngeiriau Clwb Eco Ysgol Gyfun Pentrehafod, “nid jôc ydy hyn.”
Wrth i’r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno mewn ysgolion, mae’r pedwar diben sydd wrth graidd addysgu a dysgu – creu dysgwyr uchelgeisiol a galluog, dinasyddion moesegol a gwybodus, unigolion hyderus ac iach, a chyfranwyr mentrus a chreadigol – yn gyrru’r prosiect ‘Ymgyrchwyr Ynni Ydyn Ni’ ac maent yn amlwg yng ngwaith staff a’r disgyblion.
Mae Egni wedi cydweithio gydag ysgolion yn Ne Cymru i leihau eu hôl-troed carbon o 20% mewn partneriaeth ag Energy Sparks. Nawr rydym yn datblygu prosiectau sy’n symbylu disgyblion i ddysgu am y newid yn yr hinsawdd a deall ei effaith yng Nghymru ac yn y byd. Rhaid i ddisgyblion gael y ddealltwriaeth hon er mwyn medru datblygu’r gwerthoedd sydd eu hangen i ddod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus, sy’n uchelgeisiol yn eu ffordd o feddwl, ac yn hyderus a chreadigol wrth weithredu i helpu i adfer a diogelu ein planed. Mae’r geiriau hynny “adfer”, “diogelu”, ynghyd ag “ariannu”, wedi dod yn arwyddair Ysgol Bro Ingli yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, ac mae eu dosbarth Blwyddyn 5/6 wedi bod yn dangos beth ydy disgyblion moesegol ac uchelgeisiol. Meddai Swyddog Addysg Awel Aman Tawe, Jennifer James, “Gall dysgu am y newid yn yr hinsawdd fod yn daith sy’n peri gofid – felly, gan gadw hynny mewn golwg, rydym nid yn unig yn harneisio pŵer yr elfennau naturiol i ymladd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd, ond rydym hefyd yn harneisio pŵer creadigrwydd.”
Yn sgil y bartneriaeth lwyddiannus gyda TTS ac Ynni Da, lle bu disgyblion yn gwneud arbrofion gwyddonol, gan ddysgu am effaith tanwydd ffosil ar y blaned a meddwl am sut gallwn leihau, a defnyddio llai o ynni, maen nhw hefyd wedi cael cyfle i ddysgu am ymgyrchu gydag Egni Co-op a rhannu negeseuon eu hymgyrch trwy ganllawiau arbenigol y bît-bocsiwr dwyieithog Mr Phormula (sydd newydd ryddhau record sengl newydd gyda’r rapiwr Americanaidd Lord Willin!.. )
Bydd traciau cerddoriaeth y disgyblion yn cael eu defnyddio i godi ymwybyddiaeth am lawer o flynyddoedd a gellir eu clywed ar YouTube. Meddai Pennaeth Ysgol Gynradd Glyncollen, Suzanne Hamilton, “Does gen i ddim geiriau i ddisgrifio’r olwg ar wynebau’r plant heddiw. Llwyddodd Ed i wneud sesiwn byr gyda phob dosbarth ar ddiwedd y dydd. Rwy’n disgwyl yn eiddgar am ei rap terfynol. Diolch o’r galon am y cyfle. Mae’r plant (a’r staff!) yn credu eu bod nhw hefyd yn Bît-bocswyr nawr.”
Felly beth mae’r disgyblion yn ysgolion Egni wedi bod yn gwneud?
Mae disgyblion yn Ysgol Gyfun Penyrheol yn cynnal hapwiriadau yn yr ystafelloedd dosbarth i weld pwy sydd wedi gadael y golau ymlaen, a rhoi sticeri mewn ystafelloedd dosbarth i ddangos ble gall disgyblion ddiffodd offer trydanol yn ddiogel.
Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Glyncollen yn codi ymwybyddiaeth o rywogaethau mewn perygl ac yn gwneud cysylltiadau â’r ynni a ddefnyddiwn.
Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Saundersfoot yn mynd â’u hymgyrch adref gydag awgrymiadau gwych ar gyfer lleihau ynni pa le bynnag y bônt.
Mae disgyblion yn Ysgol Pentrehafod yn meddwl am ffyrdd arloesol o rannu eu negeseuon ymgyrchu fel defnyddio sloganau a logos fel eu geiriau, “nid jôc ydy hyn”.
Mae disgyblion yn Ysgol Bro Ingli wedi lleihau eu hôl-troed carbon ac yn arbed £1500 y flwyddyn ar eu biliau.
Mae cyfranogwyr ‘Ymgyrchwyr Ynni Ydyn Ni’ yn deall yr effaith mae ein defnydd o ynni’n ei gael ar y blaned. Maen nhw’n gwybod bod cael paneli solar yn gam bychan ond cadarnhaol dros y newid yn yr hinsawdd a bod llawer mwy y gallwn ei wneud fel unigolion, ysgolion a gwledydd. Yn ffodus, maen nhw’n arwain y ffordd ac rydyn ni yno i’w cefnogi, eu hannog a’u symbylu ar hyd eu taith. Efallai y byddwch yn derbyn gwahoddiad i ddisgo pŵer pedalau a chael gweld dros eich hun beth sydd wrth wraidd yr holl ffwdan, a byddwch chi hefyd yn gallu cael awgrymiadau ar leihau a defnyddio llai o ynni.
Mae ‘Ymgyrchwyr Ynni Ydyn Ni’ yn ysgolion Egni yn Abertawe a Chasnewydd wedi cael ei hwyluso gan gyllid y Loteri Genedlaethol. Diolch i raglen #TogetherforOurPlanet gan @TNLComFundWales, rydym yn codi ymwybyddiaeth o’r cysylltiad rhwng ynni a chynhesu byd-eang ac yn ymladd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd drwy leihau ein defnydd o ynni.