Y Newyddion Diweddaraf Disglair – terfyn amser FiT wedi cael estyniad o chwe mis

Ar ôl llawer o lobïo gan Ynni Cymunedol Cymru, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, Ynni Cymunedol Lloegr ac eraill dros yr wythnosau diwethaf, mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol newydd basio’r Gorchymyn Tariff Cyflenwi Trydan (Diwygiad) (Coronafeirws) 2020 . Cafodd ei lofnodi’n electronig gan weinidog BEIS, Kwasi Kwarteng – am y tro cyntaf mae’n debyg – a daeth i rym ar 31 Mawrth.

Photovoltaic solar panels being installed on the roof of Lliswerry Primary school, Newport, Gwent.
Ysgol Uwchradd Llyswyry, Casnewydd
Photovoltaic solar panels being installed on the roof of Maesglas Primary & Nursery School, in Newport, Gwent.
Ysgol Gynradd Maesglas, Casnewydd

Meddai Rosie Gillam, Cyfarwyddwr Egni Coop “Mae hyn yn newyddion gwych. Rydym wedi gosod 1.8MW o solar dros y 12 mis diwethaf ar ysgolion, adeiladau cymunedol a busnesau ar draws Cymru. Gallwn wneud cymaint mwy ac er na allwn gychwyn ar safleoedd newydd nes i’r cyfnod cyfyngiadau symud ddod i ben, gallwn sicrhau ein bod yn barod i fynd ati cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny. Bydd hyn yn diogelu swyddi yn y sector adnewyddion ac yn sicrhau y gallwn barhau i fynd i’r afael â newid hinsawdd.”

Children with photovoltaic solar panels at St Patrick's School, Cardiff.
Paratoi ar gyfer gosod yn Ysgol Gynradd St Patricks, Caerdydd

Meddai Duncan Law, Rheolwr Polisi yn Ynni Cymunedol Lloegr, “Rydym yn falch iawn bod BEIS wedi ymateb mor gyflym ac mor rhagweithiol i’n ceisiadau am estyniad i’r terfyn amser FiT ar 31 Mawrth, yng ngoleuni’r anawsterau a brofwyd gan aelodau o ganlyniad i’r argyfwng presennol. I lawer o sefydliadau ynni cymunedol byddai hyn wedi golygu bod prosiectau’n methu ac wedi achosi difrod ariannol a allai fod wedi bygwth bodolaeth sefydliadau. Nawr byddwn yn gweld mwy nag 1 megawat o gapasiti ychwanegol mewn ynni adnewyddadwy cymunedol, o leiaf £1 miliwn o bunnoedd yn fwy o fuddsoddiad mewn atebion lleol gan bobl leol, a buddion cymunedol tymor hir anferth.

Photovoltaic solar panels on the roof of Maindee Primary School, Newport, Gwent.
Ysgol Gynradd Maendy, Casnewydd
Photovoltaic solar panels on the roof of John Frost School, Newport, Gwent.
Ysgol John Frost, Casnewydd

Meddai Prif Weithredwr STA, Chris Hewett: “Mae’n wych gweld bod y Llywodraeth yn rhoi hyblygrwydd i brosiectau solar cymunedol a oedd mewn perygl o fod yn annichonadwy oherwydd y tarfu diweddar. Mae Kwasi Kwarteng wedi gweithredu’n gyflym ac yn bendant, a dylai gael canmoliaeth am hynny. Mae’r diwydiant solar yn parhau i ymgysylltu â’r Llywodraeth i sicrhau bod anghenion brys yn cael eu bodloni yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd, a bydd y penderfyniad hwn yn tawelu eu meddwl.”

Clwb Rygbi Cwm-gors
Neuadd Bentref Clunderwen, Sir Benfro
Haverhub
Scoolchildren celebating outside Casnewydd High School the installation of solar panels on the roof
Ysgol Casnewydd

Rhannu’r Dudalen