Roedd heddiw’n ddiwrnod prysur iawn ym Mhencadlys y Ddaear, gydag ymweliad gan Man a Man a Mwnci yn y bore, y tîm Cysylltu Cymunedau yn y prynhawn, a llawer o bobl yn galw heibio yn ystod y diwrnod i weld sut mae’r paratoadau ar gyfer y gofod yn mynd yn eu blaen. Mae’r si ar led mai Pontardawe yw canolfan y glanio ar y lleuad cyntaf yng Nghymru ?
Roedd yn wych cael croesawu Man a Man a Mwnci i’r Gofod (fy enw newydd am yr oriel) gan eu bod yn fenter gymdeithasol flaenllaw iawn yn ysgol Canolfan y Gors. Maen nhw’n mynd i’r afael â materion newid hinsawdd ac yn cynhyrchu llyfr wedi’i ddarlunio’n hyfryd o’r enw “The Bear from Where?”
Cyrhaeddodd y cynghorydd technegol arbenigol, Violet, yn y prynhawn. Gwiriodd y capsiwl a chyhoeddi bod y gragen allanol yn adeileddol gadarn ac yn ‘ddiogel ar gyfer teithio i’r gofod’ … roedd hyn ar ôl iddi beintio’r llawr.
Treuliwyd llawer o’r diwrnod yn gweithio ar y rheolyddion ar gyfer y capsiwl ac yn meddwl am ba fath o reolyddion bydd eu hangen arnaf i wneud capsiwl gofod cynaliadwy, yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Mae hwn yn ddeial amser sy’n dangos faint o amser sydd ar ôl gennym i osgoi trengi torfol.
Bydd rhai eraill yn monitro cyfradd curiad fy nghalon a faint o ymarfer corfforol dwi’n ei wneud. Mae gan un arall lifer symudol a botwm gwthio i gychwyn y capsiwl.
Ar banel rheoli Greg mae botwm coch dwi ddim yn cael ei wasgu… oni bai fod pethau’n troi’n wael iawn.
Mae’n gwrthod dweud beth fydd yn digwydd os byddaf yn ei wasgu, ond rwy’n credu taw’r ateb yw Gin efallai.
Mae panel cyfathrebu fel y gallaf siarad â’r teulu, dau sy’n monitro’r codiad yn lefel y môr a llifogydd, ac un sydd â sgrin i ddangos y sêr a’r planedau o’m cwmpas. Rwy’n dechrau edrych ymlaen at symud i mewn!
Dwi wir yn mwynhau’r prosiect hwn. Mae’r weithred o greu rhywbeth gyda phobl eraill yn sefydlu clymau agosrwydd cryf. Rwy’n dwli ar y foment pan fod rhywun yn cael syniad, yn dechrau creu ac yna’n cloddio’n ddwfn y tu mewn iddyn nhw i fwydo’r wreichionen. Rwy’n hoffi gweld wynebau pobl pan fyddan nhw’n cyrraedd – yn disgwyl gweld lluniau ar y waliau ac yn lle hynny maen nhw’n dod ar draws capsiwl gofod papier mâché enfawr. Daeth un dyn i mewn heddiw yn cario dau lyfr seryddiaeth. Roedd wedi mynd i’r llyfrgell i gasglu ei gopi o Astronomy 101, ac ar y ffordd nôl gwelodd faner yn dweud Heddiw: Artist ar y Lleuad.