Mae’r misoedd diwethaf wedi mynd ar garlam wrth i ni baratoi ar gyfer y daith hon i’r gofod, felly roedd yn deimlad da i gael pacio’r cyfan mewn bocsys o’r diwedd ac anelu am Bencadlys y Daith: Canolfan Gelfyddydau Pontardawe, er mwyn dechrau adeiladu’r capsiwl gofod.
Oherwydd diffyg arian, nid oedd modd i ni gael tîm o arbenigwyr gofod i ddylunio ein capsiwl gofod cynaliadwy, felly roedd y cyfan yn dibynnu arna i a’r gath.
Dyma’r manylebau technegol rhag ofn bod rhywun arall yn bwriadu adeiladu capsiwl ?
Dydd Sul oedd y diwrnod adeiladu cyntaf, ac roedd gen i dîm gwych o gynorthwywyr i greu sylfaen yr adeiledd. Diolch Dan, Chris a Johanna. Aeth popeth yn hwylus, er gwaethaf ennyd neu ddwy o banig pan ddechreuodd yr helyg fwclo dan y pwysau. Ond llwyddon ni i’w sortio a nawr mae gennym sylfaen fasged hyfryd. Mae’n fy atgoffa am yr hen hwiangerdd ynglŷn â’r hen fenyw a aeth i’r lleuad mewn basged (gweler isod).
Hwiangerdd (dienw) There was an old woman tossed up in a basket Nineteen times as high as the moon. And where she was going I couldn’t but ask it For in her hand she carried a broom.’ Old woman! old woman!! old woman!!!’ quoth I. ‘Oh whither Oh whither Oh whither, so high.’ ‘To sweep the cobwebs off the sky.’ ‘And I’ll be with you again by and bye.’ |