Diwrnod cynhyrchiol iawn ym Mhencadlys y Daith i’r Gofod. Galwodd cynorthwywyr ymroddgar iawn heibio i helpu gyda haen gyntaf cragen y capsiwl. Rhaid i’r capsiwl fod yn ddigon cryf i wrthsefyll teithio ar 200,000 milltir yr awr, felly rwy’n gobeithio y gallaf ei gotio ag o leiaf 4 haen o papier-mâché.

Suzette yn galw heibio gyda’i sachau o bapurau newydd. Mae hefyd yn dangos ffordd slic iawn o wneud papier-mâché gyda brwsh paent.

Siân a Theo yn galw draw i weld beth sy’n mynd ymlaen ac yn treulio hanner diwrnod gyda mi – maen nhw’n wneuthurwyr papier-mâché medrus iawn.



A dyma’r capsiwl yn ei ddillad isaf!