Trosi i baneli solar i fynd i’r afael âr newid yn yr hinsawdd yng Nghlwb Rygbi Cwm-gors!

Dechreuodd Cwm-gors gêm gynta’r tymor trwy ddadorchuddio’u paneli solar newydd ar adeilad y clwb. Mae’r clwb yn gobeithio y bydd y paneli solar yn rhoi hwrdd o egni i’r tymor. Pris y system 30kW oedd £27,928 a chafodd ei gosod am ddim gan Egni Co-op gydag arian o’r Cynnig Cyfranddaliadau sydd wedi codi £4.49m hyd yma.

Meddai Dorian Jones o’r Clwb “Rydyn ni’n falch iawn ein bod yn un o’r clybiau rygbi cyntaf yng Nghymru i osod solar a helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae pawb wedi gweld y newyddion am y tanau gwyllt mewn gwahanol rannau o Ewrop. Mae ein clwb yn gweithio gyda llawer o bobl ifanc ac rydyn ni eisiau chwarae ein rhan i adeiladu dyfodol addas ar eu cyfer.”

Mae paneli ar wyneb blaen a thu cefn yr adeilad sy’n wynebu’r dwyrain – gorllewin. Mae hyn yn golygu bod y to yn cael haul ar y tu cefn yn y bore ac ar yr wyneb blaen yn y prynhawn. Bydd y paneli yn lleihau defnydd y clwb o drydan o’r grid, a’u hallyriadau carbon o 7,700 kg y flwyddyn. Amcangyfrifir y bydd y clwb yn arbed £2,400 y flwyddyn a fydd yn helpu ei sefydlogrwydd ariannol gan fod pob lleoliad chwaraeon yn ymadfer ar ôl Covid ar hyn o bryd.

Talwyd costau dichonoldeb a datblygu’r prosiect gan y Rhaglen Datblygu Gwledig, Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a Chymunedau Cynaliadwy Cymru.

Meddai Dan McCallum, Cyd-gyfarwyddwr Egni Co-op “Mae Cwm-gors yn fan geni’r chwaraewr rygbi gorau erioed, Gareth Edwards, ac mae’n wych bod ei glwb ef yn arwain y ffordd wrth leihau ein hallyriadau carbon.

Erbyn hyn, mae Egni Co-op wedi codi £4.49m trwy Gyfranddaliadau Cymunedol ac mae’n agosáu’n gyflym at ei darged o £4.6m. Rydyn ni eisiau i gymaint o bobl â phosibl ymuno â ni. Gall unrhyw un fuddsoddi cyn lleied â £50 i chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Ewch i www.egni.coop am ragor o wybodaeth. Rydyn ni’n falch iawn ein bod wedi llwyddo i dalu’r llog blynyddol o 4% ar eu buddsoddiad i’n Haelodau yn unol â’n Dogfen Cynnig Cyfranddaliadau. Mae’r aelodau hynny’n cynnwys 44 o ysgolion lle rydym wedi gosod paneli solar. Egni Co-op yw’r cwmni cydweithredol solar ar doeon mwyaf yn y DU bellach – mae hwn yn gyflawniad gwych i Gymru. Mae lleoliadau chwaraeon eraill fel Clwb Pêl-droed Tref Merthyr wedi gosod solar gydag Egni hefyd a gallwch weld ffilm fer amdano gan yr enillydd dau Bafta Cymru, Mike Harrison, isod.”

https://youtu.be/N7ur2X_iVUo

Ynglŷn ag Egni Co-op

Mae Egni wedi gosod 4.3 MWp o solar ar doeon ar 88 o ysgolion, adeiladau cymunedol a busnesau ar draws Cymru. Erbyn hyn, Egni yw’r cwmni cydweithredol solar ar doeon mwyaf yn y DU. https://youtu.be/ZC80dcRmla0 Merthyr: https://www.youtube.com/watch?v=Des8Fr-qgnk

Mae’r tîm y tu ôl i Egni wedi sefydlu’r fenter arobryn, Awel Co-op, hefyd, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad gwerth £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop

Yn 2019, Enillodd Egni Co-op y wobr Prosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol mewn seremoni a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, a chydnabuwyd Awel Aman Tawe yn Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU.

Am ragor o fanylion am Egni, cysylltwch â Dan McCallum ar 07590 848818

Adfywio CPT

Adfywio Castell-nedd Port Talbot yw’r bartneriaeth leol sy’n darparu’r Cynllun Datblygu Gwledig yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae’r rhaglen yn cael ei chydariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, fel rhan o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin trwy Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru.

Y term a roddir i’r ‘bartneriaeth’ yw ‘Grŵp Gweithredu Lleol’ ac mae’n cynnwys aelodau o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae’r GGLl – Adfywio CnPT, yn gyfrifol am arolygu ein rhaglen ARWAIN leol. Mae’r GGLl yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth eang o sefydliadau ar draws ardaloedd CNPT a Chymru. Pwrpas y GGLl yw targedu’r meysydd blaenoriaeth ar gyfer CNPT a chefnogi datblygu prosiectau llawr gwlad sy’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r meysydd blaenoriaeth hyn.

Ynglŷn â Chymunedau Cynaliadwy Cymru (CCC) (SCW)

Mae CCC yn gweithio gyda sefydliadau cymunedol ar draws y wlad i wella effeithlonrwydd ynni eu hadeiladau. Maent yn lleihau eu hallyriadau ac yn gweithredu fel esiampl o gynaliadwyedd ar gyfer y gymuned gyfan. Ariennir CCC gan Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru, ac mae’n cael ei gyflenwi gan gonsortiwm o arbenigwyr ar effeithlonrwydd ynni yng Nghymru, dan arweiniad y Severn Wye Energy Agency. Am ragor o wybodaeth, ewch i sustainablecommunities.wales

Ynglŷn â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth technegol, masnachol a chaffael am ddim i ddatblygu effeithlonrwydd ynni a phrosiectau ynni adnewyddadwy, ac mae wedi cefnogi Egni. Mae’r gwasanaeth ynni’n helpu gyda chynllunio ariannol a chyllid, er enghraifft grantiau a benthyciadau di-log.

E-bost: enquiries@energyservice.wales

Rhannu’r Dudalen