Tri aelod staff newydd yn dechrau gweithio yn ystod Pythefnos Ynni Cymunedol

Mae Awel Aman Tawe wedi cyhoeddi ei fod wedi penodi tri aelod staff newydd i rolau allweddol yn yr elusen – Felicity Crump fydd y Dirprwy Reolwr, yn cefnogi’r tîm cyllid a gweinyddu; mae Jen James wedi ymuno fel Swyddog Addysg a bydd yn gweithio gydag ysgolion i gyflwyno paneli solar Egni Co-op a fydd yn helpu i leihau eu hallyriadau carbon ymhellach; a bydd Emma Norman yn gweithio fel Swyddog Ymgysylltu a Thrafnidiaeth Gymunedol ar brosiect Hwb y Gors.

Dywedodd Felicity “Rwy’n llawn cynnwrf o gael dechrau ac wrth weld bod cymaint o bobl yn ein cefnogi’n barod – mae gennym dros 1,000 o aelodau yng Nghwmnïau Cydweithredol Awel ac Egni ac rydym wedi codi dros £15m i ariannu gosodiadau ynni adnewyddadwy dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r gwaith wedi ehangu’n aruthrol a’m rôl innau yw cyfnerthu’r twf hwn, a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Felicity Crump, ein Dirprwy Reolwr newydd

Meddai Emma “Byddaf yn gweithio gyda’r gymuned, ysgolion/colegau ac artistiaid ar ein prosiect blaenllaw newydd, Hwb y Gors. Rydym yn ailddatblygu safle hen Ysgol Gynradd Cwm-gors yn ganolfan carbon sero ar gyfer addysg, y celfyddydau a menter. Mae contractwyr wrthi’n gweithio’n galed ar y safle ar hyn o bryd. Mae’r adeilad wedi cael ei wagio’n llwyr a gosodwyd llawr newydd ddoe!

Dyluniad newydd gan Emily Hinshelwood, cyd-sylfaenydd Awel Aman Tawe, i ddathlu Pythefnos Ynni Cymunedol

Dywedodd Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Mary Ann Brocklesby “Rydym yn falch iawn o groesawu Felicity, Jen ac Emma i’n tîm. Un o nodau ein helusen yw creu swyddi newydd yn y Cymoedd. Ac mae ein staff newydd wedi rhoi hwb a bwerwyd gan ynni adnewyddadwy i ni yn barod!

Jen James ac Emma Norman yn ymweld â thyrbinau Awel gyda Dan McCallum, Rheolwr AAT a bys rhywun ar y lens!

Rydym hefyd eisiau cydnabod cymorth ein dau ariannwr, Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Ein hail gyllidwr yw Cronfa Gwydnwch Trydydd Sector Cymru – Cam Dau – Cymorth Newydd, a reolir ac a weinyddir gan CGGC ar ran Llywodraeth Cymru.”

Ynglŷn ag Awel Aman Tawe ac Egni

Mae Awel Aman Tawe yn elusen sydd wedi sefydlu dau gwmni cydweithredol, Awel Co-op ac Egni Co-op. Mae Egni wedi gosod 4.3 MWp o solar ar doeon ar 88 o ysgolion, adeiladau cymunedol a busnesau ar draws Cymru, sy’n golygu mai Egni yw’r cwmni cydweithredol solar ar doeon mwyaf yn y DU www.egni.coop

Mae’r holl safleoedd yn cael eu cefnogi gan y Tariff Bwydo i Mewn. Mae Egni yn ailariannu ein benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru gyda chyfranddaliadau cwmni cydweithredol gan fod y Banc yn codi llog o 5% tra bod aelodau’r cwmni cydweithredol yn buddsoddi ar log o 4%. Mae hyn yn golygu bod mwy o warged i’w ddefnyddio ar brosiectau addysg ar y newid yn yr hinsawdd yn ysgolion Cymru.

Dyma ffilm ddiweddar a wnaed gan yr enillydd dau BAFTA Cymru, Mike Harrison, ynglŷn â’r prosiect solar ar doeon mwyaf yng Nghymru ar Felodrom Cenedlaethol Geraint Thomas yng Nghasnewydd https://youtu.be/ZC80dcRmla0

Mae’r tîm y tu ôl i Egni wedi sefydlu’r fenter arobryn, Awel Co-op, hefyd, sef fferm wynt gymunedol 4.7MW a gomisiynwyd ym mis Ionawr 2017. Cafodd ei hariannu gan fenthyciad gwerth £5.25m gan Fanc Triodos a chynnig cyfranddaliadau cymunedol gwerth £3m www.awel.coop.

Yn 2019, Enillodd Egni Co-op y wobr Prosiect Ynni Adnewyddadwy Eithriadol mewn seremoni a noddwyd gan Lywodraeth Cymru, a chydnabuwyd Awel Aman Tawe yn Sefydliad Amgylcheddol y Flwyddyn yng Ngwobrau Mentrau Cymdeithasol y DU.

Rhannu’r Dudalen