Mae ein cynllun Trafnidiaeth Gymunedol wedi cael ei gydnabod yng Nghynhadledd y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol (CTA) yn ddiweddar pan gyhoeddwyd mai Awel Aman Tawe/ Taith oedd Enillydd y Wobr Ymrwymiad i Gynaliadwyedd a’i fod yn deilyngwr ar gyfer Cystadleuaeth Ffotograffiaeth 2023. Roedd ein rheolwr Trafnidiaeth Gymunedol Sachá Petrie yn deilyngwr hefyd ar gyfer gwobr Pencampwr y Flwyddyn. Roedd hi’n siaradwr gwadd yn y gynhadledd mewn sesiwn ar Arloesedd mewn Trafnidiaeth Gymunedol: “Innovation is not just digital: Thinking Outside the Box in the Delivery of CT Services“. Mae’n wych gweld bod gwaith caled y tîm Taith wedi cael ei gydnabod.
Diolch i CTA am ddiwrnod bendigedig. Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr yn y categorïau eraill.
Mae eich angen arnom!
Oes gennych chi ychydig o amser sbâr i ddod yn yrrwr gwirfoddol ar gyfer trafnidiaeth gymunedol? Rydyn ni’n cludo pobl i apwyntiadau meddygol, siopa a gweithgareddau cymdeithasol. Os oes diddordeb gennych, cysylltwch â taith@awel.coop


