Helpodd Paul Thorburn, cyn-gapten rygbi Cymru, Awel Co-op i ddathlu cyrraedd y garreg filltir o £1 miliwn yn eu Cynnig Cyfranddaliadau trwy ail-greu ei Gic enwog.
Adleisiodd Peter Charles o Lanelli eiriau Max Boyce “Roeddwn i yno – yn y gêm yn erbyn yr Alban yn 1986 pan giciodd y gic gosb hiraf mewn hanes. A thri deg mlynedd yn ddiweddarach, roeddwn i yno ar Fynydd y Gwrhyd fel aelod o Awel. Pasiodd sylfaen ein tyrbin o bell. Mae’n arwr.”
Dywedodd Fay Rees o Waun Cae Gurwen “Roedd hi’n bleser cael cyfarfod Paul. Roedd yna hwyl i’w gael gyda fe. Arwyddodd y bêl a gafodd ei rhoi gan Ysgol Cwmtawe. Bydd yn rhywbeth arbennig i’w gofio iddyn nhw.”
Dywedodd Clive a Cynthia Phillips o Gwmllynfell “Roedd hi’n wych cael gweld y safle a’r holl waith sydd wedi cael ei wneud gan ein contractwyr sifil, Raymond Brown Construction. Ac roedd y gic yn gampus!”
Dywedodd Dan McCallum, un o gyfarwyddwyr Awel “Mae Paul wedi bod yn ein cefnogi ni ers nifer o flynyddoedd. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am helpu i godi ymwybyddiaeth am ein Cynnig Cyfranddaliadau. Rydym yn awyddus i ddenu mwy o aelodau ac rydym nawr wedi codi ein targed Cynnig Cyfranddaliadau i £2 miliwn.
Rydym eisiau i gymaint â phosib o bobl i fod yn berchen ar ein fferm wynt – mae’n wych eich bod yn gallu bod yn un o gydberchnogion fferm wynt am £50. Fel co-op, mae pob aelod yn cael un bleidlais, waeth faint o gyfranddaliadau sydd gennych chi. Rydym nawr yn cynnig elw o 5% i’r aelodau ac mae’r holl elw yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy eraill. Dewch i ymuno â ni trwy fuddsoddi yn www.awel.coop”