Thorburn yn ail-greu ei Gic Anferthol i ddathlu llwyddiant cynllun ynni gwynt cymunedol

Helpodd Paul Thorburn, cyn-gapten rygbi Cymru, Awel Co-op i ddathlu cyrraedd y garreg filltir o £1 miliwn yn eu Cynnig Cyfranddaliadau trwy ail-greu ei Gic enwog.

Adleisiodd Peter Charles o Lanelli eiriau Max Boyce “Roeddwn i yno – yn y gêm yn erbyn yr Alban yn 1986 pan giciodd y gic gosb hiraf mewn hanes.  A thri deg mlynedd yn ddiweddarach, roeddwn i yno ar Fynydd y Gwrhyd fel aelod o Awel.  Pasiodd sylfaen ein tyrbin o bell.  Mae’n arwr.”

Dywedodd Fay Rees o Waun Cae Gurwen “Roedd hi’n bleser cael cyfarfod Paul.  Roedd yna hwyl i’w gael gyda fe.  Arwyddodd y bêl a gafodd ei rhoi gan Ysgol Cwmtawe.  Bydd yn rhywbeth arbennig i’w gofio iddyn nhw.”

Dywedodd Clive a Cynthia Phillips o Gwmllynfell “Roedd hi’n wych cael gweld y safle a’r holl waith sydd wedi cael ei wneud gan ein contractwyr sifil, Raymond Brown Construction.  Ac roedd y gic yn gampus!”

Dywedodd Dan McCallum, un o gyfarwyddwyr Awel “Mae Paul wedi bod yn ein cefnogi ni ers nifer o flynyddoedd.  Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am helpu i godi ymwybyddiaeth am ein Cynnig Cyfranddaliadau.  Rydym yn awyddus i ddenu mwy o aelodau ac rydym nawr wedi codi ein targed Cynnig Cyfranddaliadau i £2 miliwn.

Rydym eisiau i gymaint â phosib o bobl i fod yn berchen ar ein fferm wynt – mae’n wych eich bod yn gallu bod yn un o gydberchnogion fferm wynt am £50.  Fel co-op, mae pob aelod yn cael un bleidlais, waeth faint o gyfranddaliadau sydd gennych chi.  Rydym nawr yn cynnig elw o 5% i’r aelodau ac mae’r holl elw yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy eraill.  Dewch i ymuno â ni trwy fuddsoddi yn www.awel.coop

Rhannu’r Dudalen