Stacey Mangan

Cafodd Stacey ei geni a’i magu yng Ngwaun Cae Gurwen ac mae wedi bod yn gefnogwr hir dymor i Fferm Wynt Awel. Flynyddoedd lawer yn ôl, yn dilyn ei harholiadau TGAU, gadawodd Stacey addysg brif ffrwd i ddilyn gyrfa mewn Teithio, ac mae wedi gweithio mewn sawl diwydiant ers hynny: Teithio a Thwristiaeth, Lletygarwch, ac Addysg i enwi dim ond rhai. Ar ôl buddsoddi amser yn ei theulu ifanc, ail-ymunodd â’r gweithle, gan ddod yn aelod o staff Mess up the Mess, sefydliad ieuenctid trydydd sector. Ymunodd Stacey ag Awel Aman Tawe ym mis Chwefror 2024 fel Swyddog Gweinyddol a dywedodd “Rwy’n gyffrous i fod yn gog yn y tîm, yn cefnogi ac yn helpu Awel Aman Tawe i wireddu ein nodau ar gyfer y dyfodol, gan greu newid hirdymor cadarnhaol i’r ardal, trwy addysg, buddsoddiad yn y gymuned ac arfer cynaliadwy. Ar ôl oes o ddirywiad mae’n wych gweld newid cadarnhaol o’r diwedd ac mae’n fraint cael rhoi yn ôl a chynnal y gymuned y cefais fy magu ynddi”. Yn ei hamser hamdden mae Stacey yn mwynhau cerdded, cymdeithasu, nofio, a dysgu am y teithiau y mae pobl wedi bod arnynt a darganfod ble hoffent fynd nesaf.

Rhannu’r Dudalen