Peiriannydd sifil wedi ymddeol yw Martin a dreuliodd ei fywyd gwaith yn adrannau priffyrdd cynghorau lleol, yn gweithio’n bennaf ar ddylunio pontydd a strwythurau priffyrdd eraill. Datblygodd ddiddordeb mewn materion amgylcheddol fel pysgotwr yn ei arddegau. Wrth siarad â physgotwyr hŷn, daeth yn amlwg bod afonydd canolbarth Cymru wedi dirywio ers eu plentyndod. Sbardunodd hyn ei ddiddordeb mwy cyffredinol mewn materion amgylcheddol. ‘Mae’n braf gweld sut mae ‘breuddwyd gwrach’ wedi dod yn realiti ers hynny yn ystod fy oes. Roeddwn bob amser yn meddwl mai’r ateb i wrthwynebiadau i dyrbinau gwynt oedd dod â’r buddion yn fwy uniongyrchol i’r bobl a oedd yn byw’n agos at y tyrbinau ac felly, pan ymddeolais yn 2017, penderfynais roi fy arian ar fy ngair a buddsoddi swm cymedrol yn Awel Co-op.’