Louise yw ein Rheolwr Canolfan Hwb y Gors ac mae’n paratoi ar gyfer agoriad y ganolfan. Mae hi wedi bod yn gweithio fel ein Swyddog Ymgysylltu Cymunedol ers 2022, yn lledaenu’r newyddion am Hwb y Gors a darganfod beth hoffai pobl ei weld yn digwydd yn y ganolfan. Mae hi’n dweud ‘Yn fy swydd i, dwi’n cael gwneud fy hoff beth a siarad â phobl!’ Ond yn fwy na hynny, mae hi wedi trefnu gweithdai, digwyddiadau a chyfleoedd gwirfoddoli i ennyn diddordeb cannoedd o bobl yn y gwaith o adnewyddu Hwb y Gors – tecstilau, gwydr lliw, garddio a cherameg.
Astudiodd yn Rhydychen, gan ennill BEd cyn treulio’r blynyddoedd nesaf ar y ffordd yn ymweld ag ysgolion ledled Cymru. Ar ôl i’w 2 fab gael eu geni, newidiodd i weithio gartref, gan redeg busnes cacennau creadigol. Bu’n aelod o Gymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Cwmgors cyn iddi gau ac mae wedi trosgwlwyddo’i chariad dwys at yr ysgol i Hwb y Gors gan sicrhau nad yw atgofion pawb a fu’n gweithio ac yn astudio yno yn mynd yn angof.
Yn ei hamser hamdden mae hi wrth ei bodd yn cerdded a chwarae gemau bwrdd!